Gwent yn dweud ffarwel wrth yr Angel Cyllyll

29ain Tachwedd 2022

Bydd yr Angel Cyllyll yn gadael Gwent yn swyddogol ddydd Iau 1 Rhagfyr ar ôl treulio mis yng nghanolfan siopa Friars Walk yng Nghasnewydd.

Mae miloedd o bobl wedi ymweld â'r cerflun 27 troedfedd o uchder, sydd wedi ei wneud o dros 100,000 o gyllyll, yn ystod mis Tachwedd.
 
Comisiynwyd y cerflun eiconig gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt, ac fe'i crëwyd gan yr arlunydd Alfie Bradley. Bydd yn symud i Milton Keynes yn awr yn rhan o'i daith genedlaethol.  

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae wedi bod yn fraint i ni gael rhoi lle i'r Angel Cyllyll yma yng Ngwent yn ystod mis Tachwedd. Mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol ac mae wedi bod yn destun trafodaeth trwy'r rhanbarth cyfan.

"Mae ein partneriaid yn yr elusen Fearless wedi darparu gweithdai i filoedd o blant ysgol uwchradd ledled Gwent am beryglon trais ac ymosodiad, ac rydym wedi bod yn gweithio gydag ysgolion cynradd a grwpiau ieuenctid hefyd i drafod y materion pwysig hyn. Bydd y gwaith hwn yn parhau ymhell ar ôl i'r Angel Cyllyll adael.

"Mae dod â'r Angel Cyllyll i Went wedi bod yn waith partner go iawn a rhaid i mi ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i wneud yr ymweliad yn llwyddiant."

Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Rachel Williams: "Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd cael rhoi lle i'r Angel Cyllyll yng Ngwent.

"Mae’r cerflun wedi creu cyfle i ni siarad â'n cymunedau am faterion fel trais ac ymosodiad, ac mae ein swyddogion wedi siarad â miloedd o ymwelwyr yn ystod ei arhosiad.

“Hoffwn ddweud diolch enfawr wrth bawb a helpodd i ddod ag ef i Went."