Gweminar am ddim i helpu i gadw plant yn ddiogel rhag ecsbloetiaeth

6ed Mawrth 2023

Mae Heddlu Gwent a Parents Against Child Exploitation (Pace) yn cynnal gweminar am ddim i helpu rhieni i adnabod arwyddion ecsbloetio plant.

Mae'r sesiwn yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 14 Mawrth o 7pm tan 8.30pm.

Byddwch yn dysgu am ecsbloetio troseddol a llinellau cyffuriau, sut i adnabod yr arwyddion, a byddwch yn clywed profiadau rhywun a ddioddefodd ecsbloetio pan oedd yn blentyn. Cewch wybod hefyd ble i gael mwy o gymorth, cefnogaeth a chyngor os ydych chi'n pryderu am blentyn.

Cadwch eich lle