Ffilm newydd yn codi ymwybyddiaeth o Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol

27ain Mehefin 2022

Gall ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol ddigwydd i unrhyw un, ac nid yw llawer o bobl yn gwybod beth i’w wneud, ble i fynd,nac at bwy i droi.


Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yn darparu lle diogel a gofal pwrpasol ar gyfer pobl sydd wedi cael eu treisio, wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu wedi cael eu cam-drin yn rhywiol.
Does dim ots pryd y digwyddodd neu os wnaethoch ddewis cysylltu â’r heddlu ai peidio. Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yma ar gyfer pawb, gan gynnig cymorth ymarferol, meddygol ac emosiynol arbenigol ar draws Cymru.


Maent hefyd yn gallu trefnu mynediad at gynghorydd annibynnol ar drais rhywiol, yn ogystal ag atgyfeiriadau i gymorth iechyd meddwl a gwasanaethau cymorth trais rhywiol y sector gwirfoddol.


Os ydych wedi cael eich treisio, wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, a dydych chi ddim yn gwybod ble i droi, ewch i cydweithrediad.gig.cymru/CAYR i ddod o hyd i’ch canolfan atgyfeirio ymosodiad rhywiol agosaf.

Gall ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol ddigwydd i unrhyw un. Gall fod yn ddigwyddiad unigol neu'n digwyddiad sy’n digwydd sawl gwaith.


Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yn darparu lle diogel a gofal pwrpasol ar gyfer pobl sydd wedi cael eu treisio, wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu wedi cael eu cam-drin yn rhywiol.

Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yma i bawb.

Mae CAYR yn cynnig cymorth ymarferol, meddygol ac emosiynol arbenigol.

Gallwch gysylltu â chanolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol i wneud apwyntiad neu ofyn i rywun arall, megis gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, elusen, ffrind neu aelod o'r teulu wneud hyn ar eich rhan.

Does dim ots pryd ddigwyddodd hynny ac a ydych chi'n dewis cysylltu â’r heddlu ai peidio, mae cymorth ar gael i bawb.

Os ydych wedi cael eich treisio, wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, a dydych chi ddim yn gwybod ble i droi, trowch atom ni. Rydyn ni yma.

Mae cynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig hefyd ar gael i chi drwy'r system cyfiawnder troseddol os byddwch yn penderfynu roi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad. Gallant hefyd eich cefnogi drwy'r treial, pe bai'r achos yn mynd i'r llys.