Ffilmiau gan bobl ifanc yn ennill gwobrau

20fed Rhagfyr 2021

Mae dwy ffilm a grëwyd gan bobl ifanc gyda chefnogaeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi derbyn gwobrau yng Ngŵyl Academi Ffilm Blaenau Gwent.

Enillodd 'Choice 21', ffilm ddigyfaddawd yn adrodd hanes dau frawd sy'n wynebu sefyllfa anodd pan mae dêl cyffuriau'n mynd o chwith, wobr Ymwybyddiaeth Pobl Ifanc. Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar sut mae'r dewis mwyaf syml yn gallu effeithio ar eich bywyd cyfan. Enillodd wobrau hefyd am y Cyfarwyddwyr Gorau, Actores Orau mewn Rôl Ategol, Actor Gorau a Gwobr y Balŵn Las yng Ngŵyl Ffilmiau Plant Ryngwladol Cymru 2021 yn gynharach eleni.

Mae 'The Bully' wedi cael ei ysbrydoli gan brofiadau bywyd go iawn bachgen a orchfygodd y bwlis yn ei ysgol, ac enillodd y wobr Neges Foesegol Orau.

Gweithiodd plant gyda Cymru Creations, cwmni yn Nhredegar, yn rhan o brosiect sy'n cael arian gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd i greu'r ffilmiau, ac roeddent yn gyfrifol am bob cam o'r broses, o ddatblygu'r storïau, ysgrifennu'r sgriptiau, actio, ffilmio a golygu.

Ar ddiwedd y prosiect, byddant yn derbyn NVQ lefel un a dau mewn gwneud ffilmiau, sy'n cyfateb i gymhwyster TGAU. Bydd y ffilmiau'n cystadlu am Wobr Celfyddydau ym Mhrifysgol Trinity Llundain.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Yn ogystal ag annog pobl ifanc i ymchwilio i faterion difrifol fel trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy'r broses gwneud ffilmiau, rydym hefyd yn rhoi cyfle gwych iddyn nhw ddysgu a datblygu sgiliau a fydd yn ddefnyddiol iddynt yn y dyfodol pan fyddant yn chwilio am waith.

"Mae'r ddwy ffilm yn rhagorol, a dylai pawb fod yn falch iawn o'u gwaith caled. Hoffwn gymeradwyo'r bobl ifanc sy'n mynd i'r afael â'r problemau hyn mewn ffordd sy'n hygyrch ac yn adloniannol."

Mae'r ddwy ffilm i'w gweld ar sianel YouTube Academi Ffilm Blaenau Gwent