Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn
Heddiw yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn 'Dyw camdriniaeth pobl hŷn ddim yn bwnc tabŵ, ac ni ddylai fod.
I nodi'r diwrnod, mae fy nhîm wedi bod yn cydweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cymorth i Fenywod Cyfannol, i godi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth pobl hŷn ymysg cymunedau a gweithwyr proffesiynol sy'n rhoi cymorth i bobl hŷn. Mae sgyrsiau gyda phobl yn eu cymunedau yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd pawb.
Aeth y tîm i ddigwyddiadau gofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd a Blaenau Gwent, yn ogystal ag ymgysylltu ag ymwelwyr yn Ysbyty Nevill Hall. Yn ystod y sesiynau, roedd y sgyrsiau'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o arwyddion camdriniaeth a thynnu sylw at sefydliadau sy'n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth.
Er bod ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth fel Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn yn bwysig, mae codi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth yn rhywbeth rwyf wedi ymroi iddo 365 diwrnod y flwyddyn.
Gall camdriniaeth ddigwydd i unrhyw un a gall fod ar sawl ffurf. Mae'n bwysig bod pob un ohonom ni'n adnabod yr arwyddion, yn arbennig mewn pobl hŷn. Mae unigolion camdriniol yn gallu manteisio ar fregusrwydd ac ymddiriedaeth weithiau i reoli a threchu dioddefwyr. Mae camdriniaeth pobl hŷn hefyd yn gallu cael ei normaleiddio gan y dioddefwyr eu hunain. Rwyf eisiau i bawb adnabod yr arwyddion a deall nad yw hyn yn iawn. Mae Bwrdd Diogelu Gwent yn cynnig cyngor a chymorth ardderchog i unrhyw un sy'n pryderu am rywun maen nhw'n eu caru, yn gofalu amdanynt, neu gymydog hŷn.
Deall camdriniaeth pobl hŷn
Camdriniaeth gorfforol
Gall cam-drin corfforol gynnwys taro, ysgwyd, llosgi, slapio neu ddyrnu. Gall hyn arwain at doriadau a/neu gleisiau. Diffyg hylif a/neu faeth, sy'n arwain at golli pwysau. Cadw pobl oddi wrth wasanaethau iechyd a gofal.
Camdriniaeth emosiynol
Bod yn amharod i siarad yn agored, bychanu a cham-drin geiriol, a bygythiadau o niwed gan y troseddwr neu fygythiadau y bydd yn gadael y dioddefwr. Gall hyn gynnwys cadw pobl oddi wrth eu teulu a ffrindiau hefyd.
Camdriniaeth ariannol
Newidiadau i drefniadau bancio, ewyllys, neu asedau, biliau heb eu talu pan fo rhywun arall i fod i’w talu nhw, costau gofal gormodol, eitemau gwerthfawr yn diflannu, a diffyg arian i dalu am anghenion dyddiol, fforddiadwy.
Camdriniaeth rywiol
Gorfodi unigolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, neu i fod yn agored i gamdriniaeth neu ecsbloetiaeth ar-lein. Gorfodi unigolyn i edrych ar, neu ymwneud â deunydd pornograffig. Annog unigolyn i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol.
Esgeuluso
Methiant parhaus gan y gofalwr i ddarparu digon o fwyd a diod, mynediad at ofal meddygol, neu i dalu sylw i anghenion emosiynol unigolyn.
Camdriniaeth ddomestig
Digwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad bygythiol, diraddiol, rheolaethol, neu dreisgar, gan gynnwys trais rhywiol, gan bartner, cyn bartner neu aelod o'r teulu.
Mae angen i bob un ohonom ni adnabod yr arwyddion a gwybod sut i geisio cymorth a chefnogaeth.
Mae Byw Heb Ofn (0808 801 0800) yn rhoi cymorth cyfrinachol 24/7 i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan gam-drin domestig, trais rhywiol, neu ffurfiau eraill o drais yng Nghymru.
- Ffôn: 0808 801 0800 (am ddim o linellau tir a ffonau symudol yn y DU)
- Neges destun: 07860 077333
- E-bost: info@livefearfreehelpline.wales
- Sgwrsio ar-lein: Ar gael ar y wefan swyddogol: www.gov.wales/live-fear-free
Diogelu Gwent
Os ydych chi'n pryderu am ddiogelwch person hŷn a all fod mewn perygl, cysylltwch â Diogelu Gwent www.gwentsafeguarding.org.uk.
Os yw'n argyfwng y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch y Tîm Dyletswydd Argyfwng ar 0800 328 4432.