Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu
Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent a chydweithwyr i anrhydeddu swyddogion a fu farw wrth gyflawni eu dyletswydd.
Daeth cydweithwyr plismona a theuluoedd at ei gilydd ar gyfer seremoni arbennig ym mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân ddydd Mawrth 29 Medi.
Sefydlwyd Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn dilyn marwolaeth swyddog yr heddlu, Jon Odell, o Gaint yn 2000. Mae'r diwrnod yn gyfle i gofio am y rhai a fu farw ac i gydnabod dewrder ac ymrwymiad swyddogion heddlu ledled y Deyrnas Unedig.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn amser i gofio a thalu teyrnged i'r swyddogion a wnaeth yr aberth eithaf wrth gyflawni eu dyletswydd.
"Mae hefyd yn pwysleisio'r peryglon mae swyddogion yn eu hwynebu bob dydd wrth amddiffyn ein cymunedau. Hoffwn ddiolch yn ddidwyll i bob swyddog heddlu sy'n gwasanaethu a chyn swyddogion am eu hymroddiad ac am bopeth maen nhw wedi ei wneud, ac yn parhau i'w wneud, i gadw pobl yn ddiogel."