Disgyblion yn codi arian ar gyfer Tŷ Cymunedol, Casnewydd

8fed Mehefin 2021

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Maendy wedi codi £900 ar gyfer Tŷ Cymunedol, prosiect cymunedol yn Heol Eton, Casnewydd, sy’n derbyn cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Cyflwynodd prif fachgen a phrif ferch Ysgol Gynradd Maendy siec i Ingrid Wilson, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, a Sarah Miller a Zeina Hamid, gweithwyr prosiect ieuenctid.

Arweiniwyd y gwaith codi arian gan athro blwyddyn 6, Ravi Baksh, a oedd yn ymwelydd cyson a Thŷ Cymunedol pan oedd yn tyfu i fyny yn yr ardal. Dechreuodd Mr Baksh raffl arbennig yn yr ysgol i godi arian y mae angen mawr amdano. 

Dywedodd Mr Baksh: “Rwyf am i bobl ifanc gael athrawon a phobl i ddangos esiampl iddynt y gallant uniaethu â nhw. Roedd diffyg athrawon Asiaidd pan oeddwn i’n tyfu i fyny felly rwyf am fod yn rhywun y gall y plant ei barchu. Mae gallu gweithio ym Maendy, lle cefais fy magu, yn fy ngwneud i mor falch. ‘Does dim teimlad gwell na thalu yn ôl i’r gymuned.”

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Mae Tŷ Cymunedol yn brosiect ardderchog ac mae fy swyddfa yn hapus iawn i’r ariannu ar y cyd a Phlant Mewn Angen y BBC i roi cymorth i’r nifer o blant a phobl ifanc sy’n byw yn yr ardal.

“Mae’r ganolfan gymunedol wrth galon Maendy ac mae yno i helpu a chefnogi pobl ifanc a phobl hyn, trwy gynnal nifer o weithgareddau gan grwpiau cymunedol ac elusennau ochr yn ochr â gwahanol asiantaethau cymorth. Rwyf wrth fy modd yn clywed sut mae’r gweithwyr ieuenctid yn y ganolfan wedi addasu i sicrhau bod pobl ifanc yn cael pob cefnogaeth yn ystod y pandemig a’u bod yn derbyn yr holl gymorth roedd ei angen arnynt.

“Mae hwn yn gyflawniad gwych gan yr ysgol, y disgyblion a’u teuluoedd.”