Dathlu plant a phobl ifanc ym Mhilgwenlli

21ain Mawrth 2022

Roeddwn wrth fy modd i gael fy ngwahodd i barti ar gyfer holl blant a phobl ifanc clwb Sadwrn KidCare4U. 

Mae'r clwb yn derbyn cyllid gan fy swyddfa ac yn llenwi bwlch yn y gwasanaethau a ddarperir yn yr ardal leol, gan gynnig cyfle i blant o bob cymuned gael hwyl, datblygu a thyfu.

Yn ogystal â gweithgareddau sy'n annog pobl ifanc i gadw'n iach, magu hyder a gwneud ffrindiau, mae'r clwb hefyd yn darparu cymorth addysgol ychwanegol i'r rhai sydd ei angen. Daw’r staff a’r gwirfoddolwyr o'r ardal leol sy'n helpu i feithrin ymddiriedaeth a chydlyniant yn y gymuned. 

Mae'r prosiect hwn yn cadw pobl ifanc oddi ar y strydoedd ond yn ogystal â hynny mae’n rhoi rhywbeth cadarnhaol iddynt ei wneud. Bydd y gefnogaeth ehangach a gynigir i'r bobl ifanc a'u teuluoedd yn dod â manteision hirdymor i'w dyfodol.