Cyllid gan y Llywodraeth i roi cymorth i ddioddefwyr treisio, trais rhywiol a cham-drin domestig

19eg Tachwedd 2020

Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £63,729 i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent ar gyfer rhoi cymorth i ddioddefwyr treisio, trais rhywiol a cham-drin domestig. 

Mae'r cyllid yn rhan o becyn cymorth ar draws y DU gyfan sy'n ymateb i elusennau a gwasanaethau cymorth sydd wedi riportio cynnydd sylweddol mewn galw yn ystod y pandemig Covid-19.

Bydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith gwasanaethau cymorth ledled Gwent.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Bydd y cyllid hwn yn ein helpu ni a'n partneriaid i ddarparu cymorth y mae angen taer amdano i ddioddefwyr treisio, trais rhywiol a cham-drin domestig.

"Yn anffodus, rydym yn gwybod bod y troseddau hyn wedi cynyddu yn ystod y pandemig ond rydym hefyd yn gwybod nad yw pobl yn riportio’r troseddau hyn yn ddigon aml.

“Os ydych chi wedi dioddef, neu os ydych yn adnabod rhywun sydd wedi dioddef, riportiwch hynny.  Mae help ar gael.”

Gellir riportio i Heddlu Gwent ar 101, neu drwy gyfrwng Facebook a Twitter. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Mae cyngor a chefnogaeth ychwanegol i ddioddefwyr ar gael trwy Fwrdd Diogelu Gwent.