Cyllid Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn taro tant yng Nghaerffili
Mae menter yng Nghaerffili yn ymgysylltu â phobl ifanc drwy gerddoriaeth diolch i brosiect sy’n cael ei ariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd.
Mae'r fenter gymdeithasol RecRock yn darparu sesiynau cerddoriaeth creadigol wythnosol sydd wedi'u cynllunio i fagu hyder a chydnerthedd, gan ysbrydoli pobl ifanc i wneud dewisiadau bywyd cadarnhaol.
Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn gweithio gyda'i gilydd i ddysgu offerynnau newydd, ysgrifennu cerddoriaeth wreiddiol a chefnogi’i gilydd trwy gydol y broses greadigol. Byddan nhw hefyd yn cynllunio ac yn cyflwyno tri pherfformiad cyhoeddus, gan ennill sgiliau gwerthfawr ym meysydd gwaith tîm, datrys problemau ac arweinyddiaeth.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae buddsoddi mewn pobl ifanc drwy gyfleoedd creadigol fel hyn yn eu grymuso i ddatblygu sgiliau hanfodol, magu hyder a datblygu dyfodol cadarnhaol iddyn nhw eu hunain a'u cymunedau."
Mae'r prosiect yn cefnogi'r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yng Nghynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan ddefnyddio arian sydd wedi’i adfer o enillion troseddu. Gall grwpiau cymunedol wneud cais i'r gronfa am grantiau sy'n amrywio o £1,000 i £50,000 i gefnogi mentrau lleol.
Dywedodd Daniel Fitzgerald, prif weithredwr RecRock: "Mae llawer o bobl ifanc yn wynebu heriau y maen nhw'n ei chael hi'n anodd siarad amdanyn nhw’n uniongyrchol. Trwy ysgrifennu caneuon, gallan nhw fynegi’u profiadau bywyd yn ddiogel, archwilio eu hemosiynau a datblygu dulliau ymdopi iach.
"Ein nod ar gyfer y sesiynau yw eu bod yn hwyl a’u bod yn cael eu harwain gan y rhai sy’n cymryd rhan, rydyn ni bob amser yn annog pobl ifanc i ddod â cherddoriaeth maen nhw'n hoffi ei dysgu fel grŵp, felly rydyn ni'n eu cael nhw i ddysgu caneuon fel grŵp mawr gan ddefnyddio gitarau, gitarau bas, drymiau, allweddellau a chanu. Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ganeuon gan Queen, The Fratellis, Wheatus a Lady Gaga. Rydyn ni’n defnyddio cerddoriaeth i weithio ar gyfathrebu, gwaith tîm a hyder ac archwilio teimlo’n anghysurus gyda phethau newydd.
"Wrth siarad â rhieni pobl ifanc, maen nhw bob amser yn dweud ei bod yn wych gweld y plant oddi ar eu ffonau neu gyfrifiaduron ac yn gweithio gyda'i gilydd i wneud rhywbeth cynhyrchiol. Rydyn ni wrth ein bodd yn dangos yr effaith gadarnhaol ar y gymuned trwy wneud pethau i ddod â phobl at ei gilydd a rhannu llawenydd creu cerddoriaeth gyda'n gilydd."