Cyfiawnder yng Nghymru – Heddiw ac yn y Dyfodol

25ain Mai 2022

Datganiad gan bedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru

Fel pedwar o Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru, rydym yn croesawu cyhoeddiad dogfen sylweddol gan Lywodraeth Cymru sy'n dangos ymrwymiad i bwysigrwydd cyfiawnder yng Nghymru a dealltwriaeth ohono. Mae cyswllt anorfod rhwng gwaith Plismona a'r System Cyfiawnder Troseddol ag ystod o gyfrifoldebau datganoledig ac rydym wedi dangos mantais cydweithredu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Credwn mai datganoli Plismona a Chyfiawnder Troseddol, a Chyfiawnder Sifil yn ogystal, yw'r cam rhesymegol nesaf yn y daith i ddatganoli mewn ymateb i'r amser a'r ystyriaeth sydd wedi cyfrannu at ddogfen heddiw.

Ni ellir cyflawni Plismona na Chyfiawnder yn llwyddiannus ar eu pen eu hunain:  maent yn dibynnu ar gryn dipyn o gydweithredu, proffesiynoldeb ac ymddiriedaeth rhwng amrywiaeth o broffesiynau a sefydliadau. Mae arweinyddiaeth ym maes Plismona a Chyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn ein cynnwys ni a'r pedwar Prif Gwnstabl (sydd â rôl weithredol glir ac annibynnol), y rhai y mae eu rôl yn rhan o strwythur Cymru a Lloegr (y Llysoedd, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Gwasanaeth Prawf) a'r Farnwriaeth a'r Ynadaeth, sef y rheini y mae'n rhaid i'w hannibyniaeth bersonol gael ei pharchu bob amser. Ond beth bynnag yw ein lefel o annibyniaeth neu linell atebolrwydd, ni all yr un ohonom anwybyddu'r gwirionedd fod popeth a wnawn yn digwydd yn yr amgylchedd datganoledig, lle mae rôl Llywodraeth Cymru a'r cyrff sydd wedi'u datganoli'n lleol yn hanfodol ar bob lefel, o wneud penderfyniadau ar lefel strategol i gyflawni ar lefel leol.

Cydnabuwyd hyn pan benderfynodd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu a'r pedwar Prif Gwnstabl yng Nghymru gydweithio er mwyn sefydlu Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru a gwahodd y Prif Weinidog i'w gadeirio. O gael presenoldeb y Prif Weinidog, Gweinidogion a Swyddogion Llywodraeth Cymru, partneriaid ar lefel Cymru gyfan (CLlLC, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ati), Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gweinidog Gwladol dros Blismona a Chyfiawnder Troseddol a Swyddogion o'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, rydym wedi creu gofod lle y gellir archwilio cyfrifoldebau gwahanol drwy gydweithredu yn hytrach nag yn unigol. Trwy'r Bwrdd Partneriaeth Plismona, rydym yn rhannu'r prif heriau y mae pob un ohonom yn eu hwynebu, er mwyn i ni allu gwasanaethu'r cyhoedd y mae gennym gyfrifoldeb amdanynt, yn well.

Yn yr un modd, daw cyrff sy'n gyfrifol am agweddau ar gyfiawnder troseddol at ei gilydd yn ein pedwar bwrdd cyfiawnder troseddol lleol, sydd yn eu tro, yn cyfrannu at Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru. Mae hwn yn cyflawni un o brif argymhellion y Comisiwn a sefydlwyd dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Mae'r pandemig wedi dangos gwerth y trefniadau gwirfoddol hyn ac wedi arwain y cyn Arglwydd Ganghellor i ddweud: “rydych i weld yn well am wneud pethau gyda'ch gilydd yng Nghymru”. Am y tro cyntaf, bu'n rhaid i'r heddlu orfodi deddfwriaeth a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a'n Senedd gan fod rheolau COVID-19 wedi cael eu gosod dan bwerau iechyd sydd wedi'u datganoli. Wrth arfer y pwerau hyn, roedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parchu rôl yr heddlu a gwnaethant ymgysylltu â ni i'w gwneud yn effeithiol. Daeth Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru at ei gilydd gyda grŵp adfer a oedd yn cyfarfod yn wythnosol i gyflymu'r broses o ailagor y llysoedd.  Fel grŵp llywio, mae bellach yn ceisio galluogi pob rhan o'r system i fod mor effeithlon, effeithiol a theg â phosibl. Efallai ein bod ni'n gymysgedd o gynrychiolwyr datganoledig ac annatganoledig, ond yr ymdrech rhwng pawb yw darparu'r gwasanaeth Plismona a Chyfiawnder Troseddol gorau posibl i bobl Cymru.

 

Rydym eisoes yn gwneud i'r amgylchedd datganoledig weithio er budd y cyhoedd rydym yn ei wasanaethu ond ceir anghysondeb gan nad yw'r cyfrifoldebau plismona a chyfiawnder sy'n cael eu datganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, yn cael eu datganoli yng Nghymru.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda ni mewn ffordd lle rydym yn parchu ein gilydd, er mwyn helpu i wireddu trefniadau sydd wedi bod yn gymaint o lwyddiant trwy'r pandemig, ond sy'n parhau i fod yn wirfoddol eu natur. Credwn fod yr amser wedi dod am ddeddfwriaeth a llywodraethu cydweithredol priodol i ddiogelu'r ffordd rydym yn gwneud pethau yng Nghymru mewn perthynas â deddfwriaeth a'r setliad datganoli. Felly, mae'r pedwar ohonom yn gwbl ffyddiog wrth gymeradwyo a chefnogi dyhead Llywodraeth Cymru i weld cyfrifoldeb Gweinidogol am Blismona a Chyfiawnder Troseddol yng Nghymru – a Chyfiawnder Sifil hefyd – yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru a'r Senedd.

Mae manylyn arwyddocaol y mae angen gweithio drwyddo er mwyn gwireddu'r dyhead hwnnw yn ymarferol. Ni fyddai'r Prif Gwnstabliaid yn rhoi barn ar egwyddor datganoli ond bydd ganddynt farn ar faterion gweithredol arwyddocaol yn cynnwys archwilio, goruchwylio cwynion a chefnogi ei gilydd ar draws ffiniau.  Bydd angen ystyried gwaith cynnal a chadw egwyddorion allweddol fel annibyniaeth a chysondeb barnwrol yn ofalus. Ac rydym eisoes yn gweithio'n galed i wella plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru heb aros i ddatganoli ddigwydd.  Ond ystyriwn fod y ffordd y mae Plismona a Chyfiawnder Troseddol yng Nghymru wedi'i chyflawni trwy'r pandemig yn atgyfnerthu'r achos dros ddatganoli, er lles cyflawni Cyfiawnder yng Nghymru a gwasanaethau cydgysylltiedig i'r cyhoedd.

Rydym yn croesawu cyhoeddi dogfen Llywodraeth Cymru ar Gyfiawnder yng Nghymru fel y cam cyntaf i symud heibio'r ddadl wleidyddol, rydym bellach yn rhannu ein barn o ran y trafodaethau ymarferol a manwl y bydd angen i bawb gyfrannu atynt.