Cydnabyddiaeth i wirfoddolwyr Heddlu Gwent am eu cyfraniad i blismona

18fed Hydref 2021

Mae cadetiaid hŷn Heddlu Gwent a Phrif Arolygydd yr Heddlu Gwirfoddol Esther McLaughlin wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Arglwydd Ferrers am eu cyfraniad ysbrydoledig i blismona yng Ngwent. 

 

Mae Gwobrau'r Arglwydd Ferrers yn cydnabod cyfraniadau eithriadol i wirfoddoli mewn plismona.

 

Derbyniodd y cadetiaid heddlu hŷn Wobr Tîm Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol am eu menter Llysgenhadon Ieuenctid Rhuban Gwyn, a'u hymroddiad parhaus i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a merched.

 

Creodd Llysgenhadon Ieuenctid Rhuban Gwyn gysylltiadau yn eu hysgolion, colegau, a gyda swyddogion diogelu mewn cyfleusterau addysgol, gan helpu i lywio a nodi ffyrdd newydd i ymgysylltu â phobl ifanc ynghylch cam-drin domestig ac annog mentoriaid cymheiriaid i gyflwyno negeseuon hollbwysig.

 

Derbyniodd Prif Gwnstabl Gwirfoddol Esther McLaughlin y Wobr Arweinyddiaeth am y gwaith mae hi'n ei wneud i recriwtio, cefnogi a mentora Heddlu Gwirfoddol yng Ngwent yn ogystal â'i swydd amser llawn fel Cyd-gysylltydd Cymru Gyfan Dinasyddion mewn Plismona.

 

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae ennill nid un ond dwy wobr yn gyflawniad ardderchog i Heddlu Gwent.

 

"Rwyf wrth fy modd bod y Cadetiaid Hŷn a Phrif Arolygydd Gwirfoddol Esther McLaughlin wedi cael eu cydnabod am eu hymroddiad eithriadol i blismona.

 

"Mae gwirfoddoli'n cyflwyno pobl i amrywiaeth eang o bosibiliadau, mae'n hyrwyddo ac yn ymgorffori dinasyddiaeth weithredol yn ein cymunedau.

 

“Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan enfawr yn amddiffyn a thawelu meddwl pobl Gwent. Rwyf wedi gweld yn uniongyrchol pa mor bwysig maen nhw wedi bod yn y misoedd diweddar yn ystod y pandemig.

 

"O'n disgyblion Heddlu Bach yn ein hysgolion cynradd, i'r cadetiaid hŷn a’r heddlu gwirfoddol, rwyf yn gwybod bod pob un ohonynt yn gwneud cyfraniad aruthrol i helpu cymunedau Gwent i gadw'n ddiogel.

 

"Mae 138 o ysgolion yn cymryd rhan yn y cynllun Heddlu Bach ar hyn o bryd, a thros 200 o gadetiaid. Mae pob un o'r bobl ifanc hyn yn dysgu sgiliau a fydd yn ddefnyddiol iddyn nhw am byth. Mae'n bosibl y bydd rhai ohonynt yn cael eu hysbrydoli i ddod yn swyddogion heddlu.

 

"Rwyf mor falch o'r holl wirfoddolwyr sy'n mynd yr ail filltir i Heddlu Gwent. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt, am eu hymroddiad, eu hamser a'u hymrwymiad i blismona."

Mae Heddlu Gwent yn recriwtio heddlu gwirfoddol ar hyn o bryd. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Heddlu Gwent: https://www.gwent.police.uk/police-forces/gwent-police/areas/careers/join-us/special-constables/

 

Am ragor o wybodaeth am y Cadetiaid a'r Tîm NXT Gen: https://www.gwent.police.uk/police-forces/gwent-police/areas/careers/join-us/police-cadets/