Cydnabyddiaeth i Heddlu Gwent am ei waith ar Siartr Cymorth Trosedd Casineb

11eg Hydref 2021

Mae Heddlu Gwent wedi cael cydnabyddiaeth oddi wrth Cymorth i Ddioddefwyr am gymryd camau i wella ei ymateb a’i gefnogaeth i bobl sydd wedi dioddef a bod yn dyst i drosedd casineb.

Mae’r llu wedi derbyn achrediad newydd oddi wrth yr elusen annibynnol Cymorth i Ddioddefwyr.

Mae Siartr Cymorth Trosedd Casineb yr elusen yn ceisio gwneud Cymru’n wlad fwy cyfartal, diogel a chynhwysol.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Ni fydd unrhyw fath o drosedd casineb yn cael ei goddef yng Ngwent. Mae’n drosedd afiach a chymhleth ac mae’n gallu achosi niwed corfforol ac emosiynol i droseddwyr sy’n parhau am flynyddoedd.

“Rydym wedi cael clod gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi yn y gorffennol am ein gwaith ar drosedd casineb, ac mae’r gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon yn dangos ein bod yn dal i weithio’n galed i wella gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr y drosedd erchyll hon.”

Yn ddiweddar cyflwynodd Heddlu Gwent wasanaeth newydd o fewn Connect Gwent sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n dioddef ac yn dyst i drosedd, gan gynnwys trosedd casineb. Mae’r Uned Gofal Dioddefwyr yn sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn gwybodaeth a chefnogaeth amserol - o’r adeg pan maen nhw’n riportio’r drosedd trwy’r broses cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn ychwanegol at y 40 swyddog cymorth trosedd casineb sydd wedi’u hyfforddi’n arbenigol i ymateb i hysbysiadau am drosedd casineb.

Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Mae trosedd casineb yn rhywbeth sy’n gallu effeithio ar lawer o wahanol rannau o’n cymunedau.

“Mae’n drosedd nad yw’n aml yn gadael craith gorfforol, ond mae’n gallu achosi niwed sylweddol felly mae’n bwysig bod dioddefwyr yn gwybod ein bod yn cymryd unrhyw hysbysiad am drosedd casineb o ddifrif.

“Hoffwn annog unrhyw un sydd wedi profi hyn i gyflwyno eu hunain a riportio’r mater yn uniongyrchol wrthym ni, neu wrth un o’n sefydliadau partner, er mwyn i ni allu eich helpu chi.”