Cydnabyddiaeth gan Dogs Trust i’r Cynllun Lles Anifeiliaid

7fed Ebrill 2022

Mae Cynllun Lles Anifeiliaid Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, sy'n sicrhau bod cŵn Heddlu Gwent yn cael eu trin yn dda a bod y safonau uchaf yn cael eu bodloni o ran lles, wedi cael ei ardystio gan Dogs Trust.

Mae gwirfoddolwyr lles anifeiliaid yn ymweld yn rheolaidd â chŵn heddlu Gwent i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn iawn a bod eu hanghenion yn cael eu bodloni pan fyddant yn y gwaith a gartref.

Cawsant eu cyflwyno ar ôl i farwolaeth ci heddlu yn Essex ym 1997 gael llawer o sylw yn y wasg a’r cyfryngau.

Mae'r ardystiad gan Dogs Trust yn golygu bod yr elusen yn fodlon bod gwirfoddolwyr lles anifeiliaid Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn darparu gwasanaeth o safon uchel, a'u bod yn hapus i weithio gyda Heddlu Gwent i ddarparu cŵn sydd wedi cael eu hachub i gael eu hyfforddi yn y dyfodol.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae ein Hymwelwyr Lles Anifeiliaid yn chwarae rhan hollbwysig yn sicrhau bod cŵn heddlu'n derbyn gofal o'r safon uchaf, a bod eu lles corfforol ac emosiynol yn cael ei warchod.

"Mae'n glod i'w gwaith caled a'u hymroddiad i les anifeiliaid bod y cynllun wedi cael ei ardystio gan Dogs Trust a hoffwn ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig."