Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n ymweld ag Abertyleri a Brynmawr

27ain Mai 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi ymweld ag  Abertyleri a Brynmawr i siarad â thrigolion a busnesau am y materion sydd o bwys iddynt.

Manteisiodd y Comisiynydd ar y cyfle i hyrwyddo ymgyrch Dangos y Drws i Drosedd newydd Heddlu Gwent, sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â throsedd meddiangar fel byrgleriaeth a dwyn.

Siaradodd â thrigolion am feicio oddi ar y ffordd hefyd - un o'r prif bryderon a nodwyd.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Roedd yn dda siarad â thrigolion a busnesau am y materion sydd o bwys iddyn nhw, ac i roi sicrwydd iddyn nhw am y gwaith mae Heddlu Gwent yn ei wneud i fynd i'r afael â byrgleriaeth a dwyn trwy'r tîm Dangos y Drws i Drosedd newydd. 

"Nid oeddwn yn synnu clywed bod gyrru cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yn parhau i fod yn broblem yn yr ardal. Mae’r gweithgarwch hwn wedi cynyddu yn ystod y pandemig gan greu difrod sylweddol i gefn gwlad, niweidio anifeiliaid sy'n pori, amharu ar weithgareddau ffermio a rhoi cerddwyr a phobl eraill sy'n defnyddio cefn gwlad mewn perygl.

“Mae ymgyrchoedd rheolaidd yn digwydd ym Mlaenau Gwent, ac ardaloedd eraill Gwent lle mae'r mater hwn yn broblem, a byddant yn parhau yn ystod yr haf. Mae swyddogion lleol wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Blaenau Gwent i atal cerbydau rhag mynd at y mynyddoedd ble y bo'n bosibl.

“Mae'n drosedd eithriadol o anodd ei phlismona, ond, trwy weithio gyda'n partneriaid a lluoedd heddlu cyfagos rydym yn cymryd camau gweithredu ac yn anfon neges glir na fydd y gweithgarwch hwn yn cael ei oddef yma yng Ngwent. Os gwelwch chi achosion o yrru cerbydau oddi ar y ffordd, neu os oes gennych chi wybodaeth am gerbydau oddi ar y ffordd sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon, riportiwch nhw.

Gall trigolion sy'n amau bod rhywun yn defnyddio beic oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon roi gwybodaeth yn ddienw i Heddlu Gwent ar 101 neu ar dudalennau Facebook neu Twitter. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.

Am ragor o wybodaeth am Dangos y Drws i Drosedd, ewch i wefan Heddlu Gwent.