Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n cefnogi galwadau am 'gyfraith dioddefwyr'

22ain Rhagfyr 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cefnogi galwadau gan y Comisiynydd Dioddefwyr ar Lywodraeth y DU i gyflwyno cyfreithiau i roi mwy o hawliau i ddioddefwyr ynghylch sut maent yn cael eu trin.

Daeth yr alwad gan y Comisiynydd Dioddefwyr, Y Fonesig Vera Baird, yn rhan o adroddiad newydd sy'n casglu bod dioddefwyr yn cael eu trin fel 'gwylwyr' yn y broses cyfiawnder troseddol. Dywed bod angen cyfraith newydd i roi hawliau y gellir eu gorfodi i ddioddefwyr ynghylch y ffordd maent yn cael eu trin gan yr heddlu ac yn y llysoedd.

Yn flaenorol roedd llywodraeth y DU wedi dweud y byddai'n ymgynghori ar gyfraith newydd yn gynharach yn y flwyddyn, ond nid yw wedi gwneud hynny eto.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rwy'n cefnogi'r Comisiynydd Dioddefwr ac rwy'n cytuno bod angen deddfwriaeth newydd i roi mwy o hawliau i ddioddefwyr trwy gydol eu taith trwy'r broses cyfiawnder troseddol.


"Mae rhoi cymorth i ddioddefwyr yn un o fy mhrif flaenoriaethau ac rwy'n falch ein bod yn cymryd camau yng Ngwent i sicrhau ein bod yn darparu gwell gwasanaeth i ddioddefwyr.

“Heddlu Gwent oedd y llu cyntaf yng Nghymru i ddwyn amrywiaeth o wasanaethau cymorth i ddioddefwyr ynghyd o dan un to yn ein canolfan dioddefwyr Connect Gwent, gan sicrhau bod pawb sydd wedi dioddef a bod yn dyst i drosedd yng Ngwent yn cael cynnig cymorth.

"Yn 2019 gwnaethom weithio gyda Heddlu Gwent i sefydlu Bwrdd Dioddefwyr i graffu ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau i ddioddefwyr a thystion trosedd, gan sicrhau eu bod yn gyson ac o ansawdd da. Rydym wedi ymroi i welliant parhaus ac rydym yn bwriadu buddsoddi mwy yn y gwasanaethau hyn y flwyddyn nesaf."

Os ydych chi wedi dioddef trosedd, neu wedi bod yn dyst i drosedd, gallwch gael cymorth gan Connect Gwent. Nid oes rhaid i chi fod wedi riportio'r drosedd hon i'r heddlu i gael mynediad at y gwasanaethau hyn. Ffoniwch 0300 123 2133 neu e-bostiwch connectgwent@gwent.pnn.police.uk