Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn dyfarnu £270,000 i grwpiau sy'n cynorthwyo plant a phobl ifanc

23ain Mawrth 2022

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi dyfarnu £270,493 i 10 sefydliad sy'n cynorthwyo plant a phobl ifanc ledled Gwent.

Dyfernir cronfa gymunedol y Comisiynydd i sefydliadau dielw sy'n cynorthwyo plant a phobl ifanc sy'n gysylltiedig â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu sydd mewn perygl o wneud hynny, neu'r rhai hynny sydd wedi dioddef trosedd.

Mae'r gronfa’n cynnwys yn rhannol arian a atafaelwyd gan droseddwyr, a gall sefydliadau wneud cais am symiau o £10,000 hyd at £50,000.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert: "Plant a phobl ifanc yn aml yw'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a gall hyn eu rhoi mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Drwy gynorthwyo sefydliadau sy'n cynnig gweithgareddau cadarnhaol, dargyfeiriol i bobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu hyder, sgiliau a dysgu, gallwn eu galluogi i wireddu eu potensial llawn a chreu cymunedau mwy diogel a chydlynol.

"Mae'r sefydliadau hyn eisoes yn gwneud gwaith gwych yn eu cymuned a thrwy fuddsoddi arian a gafwyd drwy droseddu gallwn sicrhau ei fod yn mynd yn ôl i'r gymuned lle gall gael y budd mwyaf."

Y sefydliadau a dderbyniodd gyllid yw:

Cefn Golau Gyda'n Gilydd 
Community House 
County in the Community 
Cymru Cymorth i Fenywod Cyfannol 
Cyswllt Cymuned Dyffryn 
Empire Fighting Chance 
Kid Care 4 U 
Cymdeithas Gymunedol Yemeni Casnewydd 

Canolfan Galw Heibio Ieuenctid Senghennydd 

I gael manylion am ymweliad Cronfa Gymunedol yr Heddlu y Comisiynydd www.gwent.pcc.police.uk