Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cefnogi’r Rhwydwaith Heddlu LHDT+

29ain Mehefin 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi cefnogi cyfarfod cyffredinol blynyddol Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru, a gynhaliwyd eleni yng Nghampws Casnewydd Prifysgol De Cymru.

Sefydlwyd Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru i gefnogi pobl LHDT+ sy'n gweithio ym maes plismona yng Nghymru.

Ei nod yw creu man diogel a chroesawgar lle gall swyddogion a staff fod yn nhw eu hunain yn y gwaith a chael cymorth arbenigol pan fyddant ei angen.

Daeth y cyfarfod cyffredinol blynyddol ag aelodau o'r rhwydwaith a chynghreiriaid o bob maes plismona at ei gilydd i drafod y cynnydd sy'n cael ei wneud, rhannu profiadau, ac ystyried sut gall heddluoedd barhau i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i swyddogion a staff LHDT+.

Derbyniodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, a'i dirprwy Eleri Thomas, wobr Cynghreiriaid Aur gan y rhwydwaith, i gydnabod eu cyfraniad a'u cefnogaeth barhaus i'r gymuned LHDTC+.

Meddai Comisiynydd Mudd: “Yn draddodiadol, mae plismona wedi bod yn broffesiwn anodd i bobl LHDT+. Rwyf am i Went fod yn lle y gall pawb fyw eu bywydau fel nhw eu hunain, yn rhydd rhag ofn neu niwed, ac mae hyn yn cynnwys ein swyddogion heddlu.

"Rwyf yn falch iawn i weld bod pethau'n newid er gwell. Mae Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru yn gwneud gwaith da ledled Cymru i gefnogi ei aelodau a sicrhau bod plismona yng Nghymru yn fwy cynhwysol ac yn adlewyrchu'r cymunedau mae'n eu gwasanaethu yn well.

“Mae'r gwaith hwn yn bwysig nid yn unig i swyddogion a staff, ond i'r cyhoedd hefyd. Mae plismona cynhwysol, agored a chynrychioliadol o'n cymunedau yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder ymysg preswylwyr ledled Gwent.

"Roedd derbyn y wobr Cynghreiriaid Aur yn anrhydedd i'r ddwy ohonom a hoffem ddiolch i bawb yn Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru, a'i aelodau, am y gydnabyddiaeth hon."