Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn croesawu llysoedd newydd i ddioddefwyr treisio a thrais rhywiol
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am lysoedd newydd i ddioddefwyr treisio a thrais rhywiol.
Bydd pob Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr yn cael o leiaf un llys wedi ei neilltuo'n benodol ar gyfer clywed achosion o dreisio a thrais rhywiol dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd achosion o dreisio a throseddau rhywiol difrifol yn cael blaenoriaeth mewn llysoedd hefyd, a bydd dioddefwyr yn cael dyddiadau pendant ar gyfer achosion er mwyn osgoi oedi hir.
Nod y newidiadau yw annog mwy o ddioddefwyr i riportio digwyddiadau, sicrhau eu bod yn cael gwell cymorth, a helpu i ddwyn mwy o dramgwyddwyr gerbron y llysoedd.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae rhoi cymorth i ddioddefwyr trais rhywiol yn un o fy mhrif flaenoriaethau. Ers gormod o amser, mae dioddefwyr wedi wynebu oedi annerbyniol yn y system gyfiawnder, system sydd hefyd wedi methu â darparu’r cymorth arbenigol sydd ei angen ar gynifer o ddioddefwyr y troseddau hyn.
“Mae’r mesurau hyn yn gam pwysig i’r cyfeiriad cywir, yn dechrau’r hyn rwyf yn gobeithio bydd yn ddiwygiad ehangach o’r system cyfiawnder troseddol sy’n rhoi dioddefwyr wrth galon y broses o wneud penderfyniadau.
"Maent yn cefnogi'r gwaith sy'n digwydd yn lleol. Yng Ngwent, mae gennym ni gyfleusterau fideo-gynadledda diogel sy'n galluogi dioddefwyr a thystion i roi eu tystiolaeth o bell, gan helpu i leihau'r straen a'r pryder y gall bod yn bresennol yn y llys ei achosi.
"Rydym yn gwybod bod prosesau'r llys yn gallu teimlo'n frawychus, yn arbennig i bobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol. Mae'r mesurau hyn mewn lle i gefnogi pobl, amddiffyn eu hurddas, a'u helpu nhw i gymryd rhan yn y broses cyfiawnder mewn ffordd sy'n teimlo mor ddiogel â phosibl."