Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn diolch i drigolion am gymryd rhan mewn arolwg
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, wedi diolch i drigolion am gymryd rhan yn ei harolwg Cynllun Heddlu a Throsedd dros yr haf.
Cafodd mwy na 1,900 o bobl gyfle i leisio eu barn naill ai wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau ac ymgysylltiadau, neu ar-lein.
Bydd y canlyniadau nawr yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu defnyddio i ddatblygu Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, sef y ddogfen sy'n nodi ei blaenoriaethau ar gyfer ei chyfnod yn y swydd.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser dros y misoedd diwethaf i lenwi fy arolwg, siarad â mi a fy nhîm mewn digwyddiadau, neu roi sylwadau ar-lein.
“Bydd yr adborth rydych chi wedi'i roi i mi ar faterion yn eich ardal chi, eich profiadau gyda'r heddlu, a'r hyn y credwch y dylai plismona yng Ngwent ganolbwyntio arno, o gymorth mawr i mi ac rwy'n addo darllen pob sylw. Mae eisoes wedi rhoi cipolwg gwych i mi ar farn y cyhoedd ledled Gwent a bydd y wybodaeth yr ydym wedi'i chasglu yn hanfodol wrth ddatblygu fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.
“Fy ngwaith nesaf yw gweithio gyda fy nhîm i ddadansoddi'r holl ddata a dechrau drafftio fy nghynllun. Byddwn yn cynnal grwpiau ffocws penodol ar hyn maes o law ac os oes gennych ddiddordeb mewn chwarae rhan yn y gwaith hwn, cofrestrwch i dderbyn fy e-fwletin a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd cyfleoedd ar gael.”
I gofrestru i dderbyn e-fwletin y Comisiynydd, ewch i - https:heddlugwent/e-fwletin