Cofio dynion a menywod o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn y lluoedd arfog

14eg Tachwedd 2023

Roeddem yn falch i gefnogi digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd eleni i gofio am y dynion a menywod o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru sydd wedi gwasanaethu’r wlad yma mewn cyfnodau o wrthdaro.

Trefnwyd y digwyddiad gan Race Council Cymru a Hanes Pobl Dduon Cymru mewn partneriaeth a Chyngor Caerdydd, Y Lleng Brydeinig Frenhinol, Cymdeithas Frenhinol y Gymanwlad yng Nghymru a’r Lluoedd Arfog Prydeinig.

Hoffwn ddiolch i’r dynion a menywod dewr hynny, a’u teuluoedd, am y gwasanaeth pwysig maen nhw wedi ei roi, ac maen nhw’n ei roi o hyd, i’n gwlad.

Roedd y digwyddiad yn rhan o ddathliad blwyddyn gyfan gan Race Council Cymru - Hanes Pobl Dduon Cymru 365 - sy’n cydnabod hanes diwylliannol a threftadaeth gyfoethog pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yn ogystal â’u llwyddiannau cyfredol.