Clywed lleisiau cymunedau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

21ain Gorffennaf 2021

Mae'r wythnos hon yn wythnos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, sy'n ceisio annog cymunedau i wrthsefyll ymddygiad gwrthgymdeithasol a thynnu sylw at y dewisiadau sydd ar gael i'r rhai sy'n ei wynebu.

 

Mae barn trigolion yn bwysig iawn i mi. Mae gwybodaeth am broblemau sy'n cael eu datgelu yn cael ei hanfon at y Prif Gwnstabl; mae hefyd yn helpu fy swyddfa i nodi lle mae angen dyrannu cyllid i helpu i fynd i'r afael â phroblemau er mwyn cadw cymunedau'n ddiogel.

 

Ers mis Mai rwyf wedi ymweld â deg ardal yng Ngwent gan gynnwys Abertyleri, y Fenni, Bryn-mawr, Caerffili, Cwmbrân, Pont-y-pŵl, Cas-gwent a Chil-y-coed.

 

Yn ddiweddar, ymwelais â Blaenafon, Rhymni a Bargoed lle yr oeddwn yn falch bod masnachwyr a thrigolion lleol yn awyddus i siarad â mi am rai o'r problemau yn eu trefi ar hyn o bryd.

 

Clywais am rai problemau fel grwpiau o bobl ifanc yn ymgynnull yng nghanol trefi. Gall pobl ifanc sy’n ymgynnull mewn grwpiau beri ofn i drigolion. Mewn rhai achosion, nid yw'r rheini sy'n ymgynnull yn gwneud dim mwy na chymdeithasu ond pan fydd grwpiau mawr o bobl ifanc yn sarhaus neu'n yfed ar y stryd gall hyn achosi problemau ac fe'i hystyrir yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn i blant a phobl ifanc, ond mae angen inni sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu pardduo gan drigolion a'u bod yn gallu cwrdd â'u ffrindiau'n ddiogel drwy gydol yr haf.

Rwy'n falch o ariannu llawer o sefydliadau sy'n cynnig gweithgareddau i blant a phobl ifanc sy'n eu galluogi i gymdeithasu mewn man diogel wrth gael hwyl gyda'u ffrindiau.

 

Mae rhaglen ‘Dyfodol Cadarnhaol’ Casnewydd Fyw yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau dargyfeiriol drwy gydol yr haf i blant a phobl ifanc ledled Gwent. Mae gweithwyr medrus yn defnyddio chwaraeon fel bachyn i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau a sesiynau allgymorth sy'n helpu i leihau unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ail-gyfeirio pobl ifanc oddi ar y strydoedd.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Casnewydd Fywhttps://www.newportlive.co.uk/cy/Cymorth-Cymunedol/Chwaraeon-a-Lles-Cymunedol/Prosiectau-a-Mentrau-ein-Rhaglenni/Dyfodol-Cadarnhaol/