Cefnogi pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig yng Ngwent
1af Awst 2023
Yr wythnos yma aeth fy nhîm i ymweld â Philgwenlli i gwrdd â phartneriaid o’r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST).
Mae EYST yn cael cyllid gan fy swyddfa i ddarparu sesiynau galw heibio wythnosol i bobl ifanc o gefndiroedd ethnig leiafrifol ledled Gwent. Maen nhw’n cynnal sesiynau yn Y Fenni, Maendy a Philgwenlli.
Mae’r bobl ifanc yma’n agored i niwed yn aml, ac mae’r sesiynau’n eu galluogi nhw i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a theithiau, wrth dderbyn mentora gan oedolion sy’n dangos esiampl gadarnhaol iddyn nhw.
Mae fy nghronfa gymunedol yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd. Cewch ragor o wybodaeth ar fy ngwefan.