Cefnogi myfyrwyr yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi ymuno â phartneriaid o Heddlu Gwent a Cymorth i Ddioddefwyr i roi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.
Trosedd casineb yw unrhyw drosedd sy'n cael ei chymell gan erlyniaeth neu ragfarn ar sail hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth trawsryweddol.
Aeth y tîm i ymweld â Phrifysgol De Cymru yng Nghasnewydd i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr troseddau casineb, a phwysigrwydd riportio digwyddiadau.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: “Rwyf am i'n cymunedau fod yn llefydd lle gall pawb fyw eu bywydau fel nhw eu hunain, yn rhydd rhag ofn a niwed. Rhywle ble mae pawb yn derbyn ei gilydd ac yn trin ei gilydd gyda goddefgarwch a pharch. Pan mae ymddygiad y rheini nad ydynt yn rhannu'r gwerthoedd hyn yn troi yn gasineb, mae'n rhaid i ni gymryd camau cadarn a phriodol.
“Ni all yr heddlu gymryd camau gweithredu oni bai eu bod yn gwybod bod rhywbeth wedi digwydd, felly os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb, riportiwch y mater. Fodd bynnag, os nad ydych chi'n teimlo y gallwch chi siarad â'r heddlu, mae sefydliadau eraill sy'n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth i chi.”
Riportiwch gasineb a chwiliwch am gymorth
Os ydych chi'n profi neu'n gweld trosedd casineb, riportiwch y digwyddiad wrth Heddlu Gwent drwy ffonio 101. Gallwch riportio ar Facebook, Twitter ac ar wefan Heddlu Gwent hefyd. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
Mae cymorth ychwanegol ar gael gan ganolfan dioddefwyr Heddlu Gwent, Connect Gwent.
Gallwch gysylltu â Cymorth i Ddioddefwyr hefyd i gael cymorth, cyngor a chefnogaeth.
Mae Bawso yn darparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer preswylwyr Du a phreswylwyr o leiafrifoedd ethnig yng Ngwent.
Mae Umbrella Cymru yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, gwybodaeth ac eiriolaeth i bobl LHDTQ+ sy'n dioddef trosedd.