Carfan newydd o gwnstabliaid gwirfoddol yn ymuno â Heddlu Gwent

27ain Ionawr 2023

Roeddwn wrth fy modd i ymuno â’r Prif Gwnstabl a’i huwch swyddogion i groesawu saith o gwnstabliaid gwirfoddol newydd i Heddlu Gwent yr wythnos hon.

Tyngodd y swyddogion newydd eu llw i’r Brenin a byddant yn mynd ymlaen yn awr i gefnogi timau plismona ledled Gwent. 

Mae'r swyddogion gwirfoddol hyn yn rhoi o'u hamser personol, yn ddi-dâl, i amddiffyn trigolion a gwasanaethu eu cymunedau. Mae ganddyn nhw bwerau heddlu llawn ac maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â swyddogion arferol i gadw Gwent yn ddiogel.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am fod yn swyddog Heddlu Gwirfoddol ewch i wefan Heddlu Gwent.