Cadwch yn ddiogel a mwynhewch Nadolig llawen

24ain Rhagfyr 2020

Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel o heriol i bob un ohonom.

Pan aethom i mewn i'r cyfyngiadau symud am y tro cyntaf ym mis Mawrth, ni feddyliais am eiliad y byddem yn wynebu'r un cyfyngiadau dros y Nadolig. 

Rwy'n gwybod y bydd yn Nadolig gwahanol iawn i'r rhan fwyaf ohonom eleni ond mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i gymryd camau i atal ein GIG rhag cael ei lethu. Os bydd pob un ohonom yn chwarae ein rhan gallwn helpu i amddiffyn y gwasanaeth iechyd, cadw'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas yn ddiogel ac achub bywydau yn ein cymunedau.

Yn ffodus, mae rhywfaint o oleuni ar y gorwel ar ffurf y brechlyn ac rwy'n gobeithio y bydd bywyd yn dechrau dod yn ôl i drefn arferol yn ystod y misoedd nesaf.

Yn y cyfamser, byddwch yn gyfrifol, dilynwch y canllawiau, cadwch bellter cymdeithasol, arhoswch gartref cymaint â phosibl a gwrandewch ar gyngor gan ffynonellau y gallwch ymddiried ynddynt, fel Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd a chynghorau lleol.

Er gwaethaf heriau'r flwyddyn ddiwethaf mae'n bwysig cofio bod Gwent yn parhau i fod yn un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo, ac i ymweld ag ef, yn y DU.

Mae hyn i raddau helaeth oherwydd swyddogion a staff Heddlu Gwent, sy'n malio go iawn am y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Maent wedi mynd ymhell y tu hwnt i ddisgwyliadau eu swyddi i amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau eleni, gan wynebu perygl gwirioneddol ar y rheng flaen yn aml ac, ar ran pobl Gwent, hoffwn ddiolch i chi am hyn.

Rhaid i mi gydnabod a diolch hefyd i’n partneriaid yn y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth tân, cynghorau lleol, gwasanaethau cefnogi ac elusennau, sydd wedi rhannu heriau'r flwyddyn ddiwethaf, ac sydd wedi bod dan bwysau digynsail hefyd.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi, bobl Gwent, am eich ymdrechion eich hunain. Clywsom rai hanesion gwirioneddol ysbrydoledig o bob rhan o Went am gymunedau yn cydweithio i gefnogi ei gilydd ac edrych ar ôl pobl sy'n fregus, a rhaid i ni fod yn falch iawn o hyn.

Felly, diolch unwaith eto, a dymunaf Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd hapus ac iach i chi.