Cadwch yn ddiogel a mwynhewch Nadolig llawen

24ain Rhagfyr 2021

Mae wedi bod yn flwyddyn arall eithriadol o heriol i bob un ohonom.

Fel yr oedd pethau'n dychwelyd at ryw fath o normalrwydd, mae lledaeniad chwim yr amrywiolyn Omicron yn ein cymunedau'n golygu bod bywyd, dros yr wythnosau nesaf o leiaf, yn parhau i fod yn ansicr.

Mae'r ffordd y mae'r pigiadau atgyfnerthu'n cael eu cyflwyno'n gyflym yn gadarnhaol iawn ond, am y tro, byddwch yn gyfrifol, dilynwch y canllawiau cyfredol, cadwch bellter cymdeithasol pan fydd gofyn a gwrandewch ar y cyngor gan ffynonellau dibynadwy fel Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd a chynghorau lleol.

Er gwaethaf heriau'r ddwy flynedd diwethaf mae'n bwysig cofio bod Gwent yn parhau i fod yn un o'r llefydd mwyaf diogel yn y DU i fyw a gweithio ynddo, ac i ymweld ag ef. Mae hyn yn cael ei gadarnhau’n rheolaidd mewn adroddiadau gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ac mae'n rhywbeth rwyf yn eithriadol o falch ohono.

Rhaid i mi ddiolch i swyddogion a staff ymroddedig Heddlu Gwent sy'n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau’n rheolaidd i amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau. Mae'r dynion a menywod dewr hyn yn aml yn wynebu perygl go iawn ar y rheng flaen, ac ar ran pobl Gwent, hoffwn ddiolch iddyn nhw am hynny.

Rhaid i mi gydnabod a diolch hefyd i’n partneriaid yn y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth tân, cynghorau lleol, gwasanaethau cefnogi ac elusennau, sydd wedi rhannu heriau'r blynyddoedd diwethaf, ac sydd wedi bod dan bwysau digynsail hefyd.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi, pobl Gwent, am eich ymdrechion chi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi gweld ysbryd cymunedol rhagorol ledled y rhanbarth a phan rwyf wedi bod ar grwydr mewn cymunedau rwyf wedi cael fy nghalonogi wrth glywed pobl yn canmol eu timau plismona lleol. Rwyf yn gwybod bod ein swyddogion heddlu'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth hon yn fawr.

Felly diolch eto, a dymunaf Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd hapus ac iach i chi.