Blog gwadd: Kate Lloyd, Swyddog Seiberddiogelwch

9fed Chwefror 2021

Ymunais â Heddlu Gwent yn 2019 fel Swyddog Seiberddiogelwch a Prevent Fy ngwaith i yw gweithio gyda chymunedau, ysgolion a busnesau i'w helpu nhw i gadw'n ddiogel ar-lein.

Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor ar sut i adnabod sgamiau ar-lein, sut i sicrhau bod ein cyfrifon ar-lein yn ddiogel, a rhybuddio am rai o'r peryglon ar gyfryngau cymdeithasol.

Er ein bod wedi gorfod gweithio'n wahanol yn ystod y pandemig, rydym wedi bod yn eithriadol o brysur. Yn anffodus, sylweddolodd troseddwyr yn gyflym eu bod yn gallu manteisio ar ofnau pobl a chymryd mantais o'r ffaith eu bod wedi'u hynysu yn ystod y cyfyngiadau symud, ac rydym wedi gweld nifer o wahanol sgamiau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ymysg y sgamiau cyffredin ar hyn o bryd mae negeseuon gwe-rwydo gan bobl sy'n honni eu bod o Amazon, Netflix, DPD ac ati.  Os cewch chi unrhyw un o'r negeseuon e-bost hyn, peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni a gwiriwch gyfeiriad e-bost y sawl sy'n anfon gan ei fod yn aml yn datgelu bod y neges yn un ffug.

Mae nifer fawr o bobl ledled y DU yn derbyn negeseuon e-bost sgam sy'n honni eu bod oddi wrth y GIG, yn gofyn am wybodaeth bersonol a manylion banc er mwyn derbyn brechlyn Coronafeirws. Mae'r brechlyn am ddim ac ni fydd gofyn i chi dalu ar unrhyw bwynt.

Os ydych yn amheus ynghylch e-bost rydych wedi ei derbyn, anfonwch y neges ymlaen at report@phishing.gov.uk. Os derbyniwch chi alwad rydych yn credu sy'n dwyllodrus, rhowch y ffôn i lawr.

Cofiwch, os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod yn rhy dda i fod yn wir.

Rydym yn helpu rhieni i gadw eu plant yn ddiogel ar-lein hefyd.  Gan fod y rhan fwyaf o blant yn dysgu o gartref, maen nhw'n treulio mwy o amser nag erioed o flaen y sgrin ac mae'n gallu bod yn anodd monitro beth maen nhw'n gallu cael mynediad ato yn rheolaidd. Gall rhieni helpu i gadw eu plant yn ddiogel trwy sicrhau bod rheolaeth rhieni wedi cael ei osod i reoli faint o amser maen nhw'n ei dreulio ar-lein a'u bod yn cael mynediad at wefannau a chynnwys sy'n briodol i'w hoedran.

Er na allwch chi gyfyngu ar bopeth maen nhw'n ei weld ar-lein, mae nodweddion mewn apiau fel Tik Tok o'r enw "Family Pairing" felly gallwch gyfyngu ar gynnwys, analluogi sylwadau a negeseuon, a gosod proffil eich plentyn ar "preifat". Yn ddiweddar, gwnaethom ffilmio fideos yn rhan o ymgyrch o'r enw STOPIO-SIARAD-AMDDIFFYN sy'n rhoi mwy o gyngor ar sut i gadw'n ddiogel.



Fel rhan o Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2021, mae Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU wedi cynhyrchu cyfres o adnoddau am ddim i helpu rhieni a gofalwyr i siarad â phlant ynglŷn â chadw'n ddiogel ar-lein hefyd. Gallwch lawrlwytho'r rhain ar wefan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU.

Dilynwch Dîm Seiberdrosedd Heddlu Gwent ar @GPCyberCrime i gael y cyngor diweddaraf ac i glywed am y sgamiau diweddaraf.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech i mi siarad â'ch grŵp neu eich busnes, cysylltwch â mi ar kate.lloyd@gwent.pnn.police.uk.