Blog gwadd: Carys Lee, gweithiwr cymorth i ddioddefwyr ifanc gydag Umbrella Cymru

1af Gorffennaf 2021

Caiff Umbrella Cymru ei gomisiynu gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent i ddarparu gwasanaethau cymorth i unrhyw berson ifanc nad yw eto’n 18 oed y mae trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi effeithio arno. Mae'r gwasanaeth ar gael i unrhyw ddioddefwr ifanc neu dyst i drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ni waeth pryd y digwyddodd yr helynt.

Ymunais ag Umbrella Cymru fel gweithiwr cymorth i ddioddefwyr ifanc ym mis Medi 2020 ar ôl gweithio mewn ysbyty iechyd meddwl diogel cyn hynny. Roeddwn i’n awyddus i ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth a gefais wrth gefnogi oedolion â'u hiechyd meddwl i helpu plant a phobl ifanc.

Mae'r plant a'r bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi yn cael eu hatgyfeirio i ni mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai yn cael eu hatgyfeirio gan yr heddlu yn dilyn digwyddiad diweddar, ac mae eraill yn cael eu hatgyfeirio gan eu hysgolion neu eu rhieni. Mae rhai plant a phobl ifanc yn cysylltu â ni eu hunain ac rydym yn annog mwy o bobl ifanc i wneud hyn. Mae ein cymorth am ddim ac yn gyfrinachol, felly hoffem i bobl ifanc wybod ein bod ni yma i’w helpu.

Rydym yn gweld mai’r rhesymau mwyaf cyffredin i bobl ifanc fanteisio ar ein cymorth yw bwlio, neu ar ôl iddyn nhw ddioddef ymosodiad. Yn aml mae’n eu helpu i gael rhywun i siarad ag ef y tu allan i'r ysgol neu’r amgylchedd teuluol.

Pan fyddwn ni wedi cysylltu â pherson ifanc, mae amrywiaeth o gymorth y gallwn ei gynnig. Gall hyn gynnwys cymorth emosiynol, a bod yn rhywun diduedd i siarad ag ef, neu gynnig arweiniad ymarferol ar bethau fel cydberthynas iach neu gadw'n ddiogel ar-lein. Gallwn ni hefyd arwain pobl ifanc drwy ymarferion magu hyder i'w helpu i feithrin eu hunan-barch a'u cefnogi gyda strategaethau ymdopi i leddfu'r effaith y mae digwyddiad yn ei chael ar eu perthynas ag eraill, eu hymddygiad neu eu bywyd o ddydd i ddydd.

Er enghraifft, yn ddiweddar roeddwn i’n cefnogi person ifanc a oedd yn cael problemau yn rheoli ei ddicter ac a oedd yn ymateb yn dreisgar pryd bynnag y byddai’n cael ei gynhyrfu. Roedd hyn yn gwbl ddealladwy oherwydd natur y digwyddiad yr oedd wedi ei ddioddef, felly roeddwn i eisiau gweithio gyda fe ar ymdopi â'r effaith a rheoli ei ymatebion i emosiynau. Roeddwn i wedi gallu ei gyflwyno i'r dechneg wreiddio 5-4-3-2-1 sy'n ffordd syml o helpu pobl i ganolbwyntio ar eu hamgylchedd presennol a lliniaru sefyllfa. Cafodd y person ifanc lawer o lwyddiant yn defnyddio'r dechneg hon ac mae wedi adrodd ei bod yn gymorth enfawr.

Y dechneg wreiddio 54321

Mae'r dechneg hon yn ddefnyddiol iawn i helpu i leddfu pryder a theimladau o ddicter drwy wneud i chi ganolbwyntio ar eich amgylchedd, ac mae’n un o blith llawer o dechnegau ac ymarferion yr ydym yn eu defnyddio gyda'r bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi.


Canolbwyntiwch ar:

5 peth y gallwch chi eu gweld

4 peth y gallwch chi eu teimlo

3 pheth y gallwch chi eu clywed

2 beth y gallwch hi eu harogli

1 peth y gallwch chi ei flasu

 

Fy nghyngor i riant, gwarcheidwad, athro neu unrhyw un arall sy'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc y mae trosedd wedi effeithio arno, yw bod yno a gwrando heb farnu. Rhowch gefnogaeth emosiynol ond peidiwch â gwthio os nad yw'n barod amdani eto. Helpwch eich plentyn neu berson ifanc i allu manteisio ar gymorth proffesiynol cyn gynted ag y bydd yn barod, oherwydd gall hyn helpu i leihau'r effaith hirdymor y gall bod yn ddioddefwr neu’n dyst i drosedd ei chael arno.