Ar grwydr yng Nghoed-duon a Rhymni

19eg Mai 2022

Es i ymweld â Choed-duon a Rhymni'r wythnos hon i gwrdd â'r timau plismona lleol ac i siarad â thrigolion a masnachwyr am y materion sydd o bwys iddyn nhw.

Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i siarad â mi.

Mae'n bwysig fy mod yn clywed barn trigolion ledled Gwent, ac rwy'n defnyddio'r wybodaeth hon i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran y cyhoedd.