Adroddiad In Focus ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

5ed Tachwedd 2021

Rwy’n falch o fod wedi cyd-ysgrifennu’r cyflwyniad i adroddiad diweddaraf Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Fel un o arweinwyr y Gymdeithas ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, rwy’n cymryd y pwnc hwn o ddifrif. Caiff Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd eu hethol i weithredu fel llais y cyhoedd ym maes plismona, a’r hyn rydyn ni’n ei glywed ledled Cymru a Lloegr yw bod ymddygiad gwrthgymdeithasol o bwys i bobl leol. Dyna pam fod ymddygiad gwrthgymdeithasol mor amlwg yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

Ond nid gwaith i’r heddlu yn unig yw mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae angen ymateb mewn partneriaeth i lawer o’r materion sylfaenol sy’n arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol – materion fel tai annigonol, camdriniaeth alcohol a chyffuriau, ac amddifadedd cymdeithasol. Yn gynharach eleni, esboniodd y Cynllun Curo Trosedd ymrwymiad y Llywodraeth i leihau troseddau, amddiffyn dioddefwyr, a chadw ein cymunedau’n ddiogel. Roedd Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd eisoes yn ysgogi gweithgarwch lleol. Nawr, gobeithio y bydd y Cynllun Curo Trosedd yn ysgogi mwy o bartneriaid i ddod ynghyd ac i ymuno â ni i roi diwedd ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd.