Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015: Rheoliad 113
Mae Rheoliad 113 Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn gofyn bod yr holl awdurdodau contractio yn talu anfonebau cydnabyddedig o fewn 30 diwrnod. Pan na fydd anfonebau y mae anghydfod yn eu cylch yn cael eu talu o fewn y cyfnod hwn o 30 diwrnod, codir llog ar y swm sy'n ddyledus fel yr amlinellir yn y Ddeddfwriaeth Taliadau Hwyr.
Mae Rheoliad 113(7) o Ddeddf Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn nodi bod rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r wybodaeth ganlynol o fis Ebrill 2016 ymlaen:
- Canran yr anfonebau haen gyntaf i gyflenwyr/prif gontractwyr (nad oes anghydfod yn eu cylch) a dalwyd o fewn 30 diwrnod
- Cyfanswm y llog y mae'r awdurdod contractio'n gyfrifol am ei dalu (boed wedi ei dalu neu beidio) oherwydd bod Rheoliad 113 wedi cael ei dorri
- Cyfanswm gwirioneddol y llog a dalwyd i gyflenwyr oherwydd bod Rheoliad 113 wedi cael ei dorri
Mae'r tabl canlynol yn dangos perfformiad mewn perthynas â'r gofyniad hwn.
Blwyddyn Ariannol |
Cyfran yr anfonebau cydnabyddedig a dalwyd o fewn 30 diwrnod yn unol â Rheoliad 113 | Cyfanswm y llog rydym yn gyfrifol am ei dalu i Gyflenwyr oherwydd bod Rheoliad 113 wedi cael ei dorri. | Cyfanswm y llog a dalwyd mewn gwirionedd i gyflenwyr oherwydd bod y gofyniad yn Rheoliad 113 wedi cael ei dorri |
2022/23 |
82.27% | Mae cyflenwyr yn gallu pennu eu cyfraddau eu hunain yn unol â deddfwriaeth y DU* | £0.00 |
2021/22 |
83.89% | Mae cyflenwyr yn gallu pennu eu cyfraddau eu hunain yn unol â deddfwriaeth y DU* | £0.00 |
2020/21 |
79.86% | Mae cyflenwyr yn gallu pennu eu cyfraddau eu hunain yn unol â deddfwriaeth y DU* | £0.00 |
2019/20 |
78.52% | Mae cyflenwyr yn gallu pennu eu cyfraddau eu hunain yn unol â deddfwriaeth y DU* | £8,403.42 |
2018/19 | 71.68% | Mae cyflenwyr yn gallu pennu eu cyfraddau eu hunain yn unol â deddfwriaeth y DU* | £987.77 |
* Late Payment of Commercial Debts (Interest) Act 1998 a Late Payment of Commercial Debts Regulations 2002 (SI 2002 No 1674)
- Arwystl sefydlog o £40, £70 neu £100 yn dibynnu ar faint y ddyled (o dan £1,000, o dan £10,000, ac uwch).
- Llog yn 8% uwchben y gyfradd sylfaenol (lefel a bennir bob 6 mis er hwylustod).