Cyllideb 2023-24
Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2023-24
Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2023-24 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.
Cyllideb 2023-24 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2023-24 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2021-25; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:
- Gofyniad ar gyllideb 2023/24 o £161,586,891;
- Arbedion arfaethedig o £1.142 miliwn yn 2023/24 ac arbedion arfaethedig pellach o £2.762 miliwn (cyfanswm o £3.904 miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 5b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
- Defnydd arfaethedig pellach o Gronfeydd Wrth Gefn a Chronfeydd wedi’u Neilltuo o £3.457 miliwn i fantoli cyllideb 2023/24 (Atodiad 7);
- Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y'i disgrifir yn Atodiadau 8a ac 8b; a
- Praesept y Dreth Gyngor 2023/24 arfaethedig i’w gasglu mewn cysylltiad â threuliau cyffredinol o £72,998,181. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd blynyddol ym Mand D o 6.82% neu £20.72 ar lefel Praesept y Dreth Gyngor 2022/23, a thrwy hynny’n cynnig Praesept y Dreth Gyngor Band D 2023/24 o £324.52. Bydd y swm Praesept y Dreth Gyngor cyffredinol hwn yn cael ei ddosrannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn ôl y tabl canlynol:
Awdurdodau Unedol | £ | Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£) |
Blaenau Gwent Caerffili Sir Fynwy Casnewydd Torfaen |
6,752,190 |
20,806.70 61,135.13 47,778.09 60,975.52 34,246.57 |
Cyfanswm | 72,998,181 | 224,942.01 |
Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:
Band Treth y Cyngor | £ |
A B C D E F G H I |
216.35 252.40 288.46 324.52 396.64 468.75 540.87 649.04 757.21 |
Adroddiadau (Saesneg yn unig)
Adroddiad cyllideb
Atodiad
Atodiadau
Adroddiad Panel yr Heddlu a Throsedd