Cyllideb 2021-22
Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2021-22
Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2021/22 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.
Cyllideb 2021/22 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2020/21 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2017-21; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:
- Gofyniad cyllideb o £147,554,856 ar gyfer 2021/22;
- Arbedion arfaethedig o £676k miliwn yn 2021/22 ac arbedion arfaethedig pellach o £3.102 miliwn (cyfanswm o £3.778m miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 5b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
- Defnydd arfaethedig pellach o'r Arian Wrth Gefn a Chyllid Wedi'i Sicrhau (Atodiad 7)
- Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiadau 8a a 8b; a
- Praesept arfaethedig ar gyfer 2021/22 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £64,159,178 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £287.96) a bydd y swm hwn yn cael ei rannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:
Awdurdodau Unedol |
£ |
Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£) |
Blaenau Gwent |
5,987,866 |
20,794.09 |
Caerffili |
17,506,027 |
60,793.26 |
Sir Fynwy |
13,451,170 |
46,711.94 |
Casnewydd |
17,417,143 |
60,484.59 |
Torfaen |
9,796,972 |
34,021.99 |
Cyfanswm |
64,159,178 |
222,805.87 |
Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:
Band Treth y Cyngor |
£ |
A |
191.97 |
B |
223.97 |
C |
255.96 |
D |
287.96 |
E |
351.95 |
F |
415.94 |
G |
479.93 |
H |
575.92 |
I |
671.91 |