Cyfiawnder Adferol
Mae dioddef trosedd yn brofiad trawmatig yn aml. Mae llawer o ddioddefwyr yn teimlo bod eu bywyd wedi cael ei droi ben i waered ac nad yw’r hyn a oedd yn normal ac yn gyfarwydd yn teimlo'n ddiogel mwyach. Er bod y broses cyfiawnder troseddol yn ymdrin â'r drosedd, weithiau mae'n gallu gadael y bobl sydd wedi cael eu niweidio'n teimlo nad oes ganddynt reolaeth a bod angen atebion arnyn nhw na ellir eu darparu yn ystod y broses ffurfiol.
Gall cyfiawnder adferol newid hyn
Mae cyfiawnder adferol yn dwyn ynghyd y rheini sydd wedi cael eu niweidio gan drosedd neu wrthdaro a’r rheini a oedd yn gyfrifol am y niwed er mwyn dod o hyd i ffordd gadarnhaol o symud ymlaen. Mae'n galluogi dioddefwyr i gwrdd â’u troseddwyr neu gyfathrebu â nhw er mwyn egluro effaith wirioneddol y drosedd a gofyn cwestiynau sydd o bwys iddyn nhw. Mae'n helpu i unioni'r niwed a achoswyd gan y drosedd, yn aml trwy ddangos i'r dioddefwr realiti'r troseddwr, ond mae'n rhoi anghenion y dioddefwr uwchlaw popeth arall. Pan fydd trosedd wedi digwydd, gellir defnyddio cyfiawnder adferol i roi cyfle i'r dioddefwr, y troseddwr ac, yn achlysurol, aelodau'r gymuned, ddod at ei gilydd a thrafod sut y gellir unioni'r niwed.
Nid yn unig mae'r broses yn rhoi llais i'r dioddefwyr ac yn eu helpu nhw i gael tawelwch meddwl a symud ymlaen trwy esbonio effaith eu gweithredoedd i droseddwyr; mae hefyd yn annog troseddwyr i dderbyn cyfrifoldeb am eu hymddygiad. Nod hirdymor cyfiawnder adferol yw lleihau trosedd. Mae ymchwil yn dangos bod troseddwyr sy'n cymryd rhan yn y broses cyfiawnder adferol gyda'u dioddefwyr yn llai tebygol o aildroseddu.
Pryd mae cyfiawnder adferol yn cael ei ddefnyddio?
Dim ond pan fydd y troseddwr yn derbyn cyfrifoldeb am y drosedd ac mae'r dioddefwr yn cytuno i ddull adferol y gellir defnyddio cyfiawnder adferol. Gellir defnyddio cyfiawnder troseddol ar unrhyw gam yn y system cyfiawnder troseddol a gellir ei weithredu ar draws pob trosedd. Mae cyfranogiad gan y dioddefwr yn wirfoddol bob tro, yn seiliedig ar ddewis gwybodus y dioddefwr, a chaiff ei weithredu ar gyflymder sy'n addas i'r unigolyn. Nid yw cyfiawnder adferol yn opsiwn hawdd - i lawer o droseddwyr, mae wynebu eu gweithredoedd yn anodd iawn.
Rhwymedi Cymunedol
Cyflwynwyd y Rhwymedi Cymunedol yn rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ac mae’n rhoi mwy o lais i ddioddefwyr wrth gyflawni cyfiawnder troseddol.
Caiff y Rhwymedi Cymunedol ei gyflawni trwy broses o’r enw Datrysiad Cymunedol. I ddefnyddio Datrysiad Cymunedol, rhaid bod gan y swyddog ddigon o dystiolaeth i achos gael ei ddwyn i’r llys a rhaid i’r troseddwr gyfaddef ei fod yn euog. Ar ôl ymgynghori gyda’r dioddefwr, rhaid i’r swyddog hefyd benderfynu mai gwell fyddai ymdrin â’r mater yn y gymuned.
Ymysg y mathau o droseddau sy’n addas ar gyfer Rhwymedi Cymunedol mae difrod troseddol, lladrad gwerth isel, mân ymosodiadau (heb anaf) ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ar ôl i drosedd gael ei chyflawni, bydd swyddogion heddlu’n cyflwyno rhestr i ddioddefwyr gyda dewis o bedair cosb y tu allan i’r llys. Mae’r opsiynau hyn yn rhoi llais i’r dioddefwr yn y ffordd y mae cyfiawnder yn cael ei weinyddu.
Penderfynwyd ar yr opsiynau sydd ar gael trwy’r Rhwymedi Cymunedol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent.
Y pedwar opsiwn y cytunwyd arnynt yw:
- Gwneud iawn am ddifrod a achoswyd (ee atgyweirio difrod i eiddo, glanhau graffiti neu ddychwelyd eiddo wedi’i ddwyn)
- Talu i atgyweirio’r difrod a achoswyd neu i amnewid yr eiddo a gafodd ei ddwyn
- Ymddiheuriad llafar neu ysgrifenedig sy’n ddidwyll ac yn dderbyniol i’r dioddefwr
- Dull adferol sy’n caniatáu i ddioddefwyr a throseddwyr leisio eu safbwyntiau wrth ei gilydd heb gyfarfod wyneb yn wyneb
Yr heddlu sy’n penderfynu’n derfynol sut i ymdrin â’r troseddwr. Rhaid i’r penderfyniad wella hyder y cyhoedd yn y defnydd o warediadau y tu allan i’r llys a rhaid iddo beidio â thorri hawliau dynol.
Os bydd troseddwr yn peidio â chyflawni’r camau gweithredu y mae wedi cytuno arnynt trwy’r Rhwymedi Cymunedol, gellir ei ddwyn gerbron llys.