Datganiad Hygyrchedd


Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.gwent.pcc.police.uk 

Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • Chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgri

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd neu unrhyw ofynion hygyrchedd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:

  • Nid yw rhai o’n dogfennau PDF yn gwbl hygyrch i ddarllenwyr sgrin
  • Nid yw rhai tudalennau ac atodiadau i ddogfennau wedi’u hysgrifennu’n glir
  • Nid oes gan rai tablau benawdau rhes
  • Mae gan rai tudalennau gyferbyniad lliw gwael
  • Nid yw rhai elfennau penawdau yn gyson
  • Nid oes gan rai delweddau destun amgen da
  • Nid yw rhai botymau wedi’u nodi’n gywir
  • Nid yw rhai negeseuon gwall wedi’u cysylltu’n glir â rheolyddion ffurflenni
  • Mae rhai dogfennau ar ffurf PDF ac nid ydynt yn hygyrch

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.

Os na allwch fynd at rywbeth y mae ei angen arnoch ar y wefan hon, dywedwch wrthym amdano a byddwn yn cael yr hyn sydd ei angen arnoch mewn ffordd arall. I’n helpu i ddeall y broblem, anfonwch e-bost at commissioner@gwent.police.uk yn nodi:

  • cyfeiriad gwe neu deitl y dudalen lle daethoch ar draws y broblem
  • beth yw’r broblem
  • pa gyfrifiadur a meddalwedd yr ydych chi’n eu defnyddio

Y Weithdrefn Orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd elfennau o beidio â chydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Nid yw’n cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

  • Efallai na fydd dogfennau PDF yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Rydym yn y broses o ddisodli neu drwsio unrhyw ddogfennau PDF a Word sy’n hanfodol i’n gwasanaethau.
  • Gyda rhai eithriadau, bydd pob dogfen PDF neu Word newydd a fydd yn cael ei chyhoeddi gennym yn bodloni safonau hygyrchedd oni bai y byddai’n rhoi baich anghymesur arnom i wneud hynny.
  • Bydd rhywfaint o wybodaeth ariannol y bydd angen ei chyflwyno mewn ffordd benodol er mwyn iddi wneud synnwyr. Byddwn yn ymdrechu i wneud y dogfennau hyn mor hygyrch â phosibl ond efallai y bydd rhai achosion lle na fydd yn bosibl bodloni’r gofynion hyn.

Os oes angen cymorth arnoch chi gydag unrhyw ddogfen nad yw’n cydymffurfio, cysylltwch â ni a byddwn yn ymdrechu i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd bosibl.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw llawer o’n dogfennau PDF a Word hŷn yn gwbl hygyrch, er enghraifft, efallai na fyddant yn hawdd eu darllen gan ddefnyddio darllenydd sgrin.

Ein nod yw disodli neu drwsio unrhyw ddogfennau PDF a Word sy’n hanfodol i’n gwasanaethau.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gafodd eu cyhoeddi cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 17 Chwefror 2022. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 8 Mawrth 2022.

Cafodd y wefan hon ei phrofi diwethaf ym mis Medi 2020. Cafodd y prawf ei gynnal gan y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir. Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent hefyd wedi cynnal adolygiad ar wahân o’r wefan.

Rydym wedi adolygu pob tudalen o’r wefan er mwyn sicrhau bod cynifer o faterion hygyrchedd â phosibl wedi’u nodi a’u datrys.