Y Tîm
Mae'r Comisiynydd yn cael cymorth gan dîm o bobl i sicrhau ei bod yn gallu cyflawni pob agwedd ar ei rôl hyd eithaf ei gallu.
Fel Pennaeth Gwasanaethau y Telir Amdanynt, y Prif Weithredwr Siân Curley sy'n gyfrifol am gyflogi a rheoli'r tîm staff yn ogystal â monitro safonau.
Mae'r Prif Swyddog Cyllid, Darren Garwood-Pask, yn cynghori'r Comisiynydd ar bob mater ariannol megis effaith y gyllideb a'r holl benderfyniadau gwario a chomisiynu.
Mae'r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog Cyllid yn atebol i'r Comisiynydd.
Strwythur a Chyflogau
Y Comisiynydd: Jane Mudd: £73,302.
Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd: Eleri Thomas: £57,177.
Prif Weithredwr a Swyddog Monitro: Sian Curley: Salary: £107,598.
- Rheolwr Swyddfa:
- Cynorthwyydd Personol i’r tîm gweithredol (rhannu swydd)
- Cynorthwyydd Personol i’r tîm gweithredol
- Cynorthwyydd Gweinyddol
Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu: £53,688 - £57,258.
- 2 Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Pennaeth Sicrwydd a Chydymffurfio (Dirprwy Swyddog Monitro a Swyddog Diogelu Data): £53,688 - £57,258.
- Swyddog Llywodraethu
- Swyddog Safonau a Llywodraethu
Pennaeth Strategaeth: £53,688 - £57,258.
- 3 Swyddog Polisi
- Dadansoddydd
- Rheolwr Cyflawni Partneriaeth y Ddyletswydd Trais Difrifol
Prif Swyddog Ariannol a Swyddog S151: Darren Garwood-Pask. Salary: £107,598.
- Prif Reolwr Ariannu a Chomisiynu
- Rheolwr Comisiynu a Chyllido
- Swyddog Busnes ac Arian
Mae dyletswydd statudol ar y Comisiynydd i gyhoeddi nifer y staff ar y tîm, gan gynnwys cyfran y staff sy'n fenywod a (hyd y gŵyr y Comisiynydd) chyfran y staff sydd o leiafrif ethnig a/neu sydd ag anabledd.
Ar hyn o bryd mae tîm Swyddfa'r Comisiynydd yn cynnwys y staff canlynol (heblaw am y Comisiynydd a'r Dirprwy Gomisiynydd):
Nifer y swyddi yn y strwythur: 20 (Cyfwerth ag amser llawn)
Cyfran y staff sy'n fenywod: 14
Cyfran y staff sy'n aelodau o leiafrif ethnig: 2
Cyfran y staff sydd ag anabledd: 2