Partneriaid Cyfiawnder Troseddol

Mae'r Comisiynydd yn chwarae rhan ganolog yn helpu partneriaid cyfiawnder troseddol lleol i gydweithio yn ogystal â chyflwyno mwy o atebolrwydd, a fydd yn cyfrannu at gyflawni cyflawnder. Trwy ddefnyddio'u gorchymyn cyhoeddus, bydd y Comisiynydd yn gwneud y ffordd mae'r partneriaid hyn yn blaenoriaethu a chydweithio ar draws y system cyfiawnder troseddol yn fwy eglur.

Mae'r Comisiynydd yn eistedd ochr yn ochr â phartneriaid ar y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol i ddwyn asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol at ei gilydd i hyrwyddo prosesau cyfiawnder troseddol cydgysylltiedig ar draws amrywiaeth o ardaloedd.

Partneriaid cyfiawnder troseddol

Mae gan bartneriaid cyfiawnder troseddol gydberthynas hir a sefydlog â'r heddlu.

Mae dyletswydd ddwyochrog ar y Comisiynydd i weithio mewn cydweithrediad ag 'awdurdodau cyfrifol' ac i dalu sylw i'r blaenoriaethau; ac mae dyletswydd arno i weithio gyda chyrff cyfiawnder troseddol lleol i ddarparu 'system cyfiawnder troseddol effeithlon ac effeithiol ar gyfer yr ardal heddlu'.

Dyletswydd i Gydweithredu

Y cyrff cyfiawnder troseddol a gynhwysir yn y ddyletswydd i gydweithredu yw Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydicarchardaiy gwasanaeth prawf a thimau troseddau ieuenctid.

Mae'r ddyletswydd yn gosod fframwaith hyblyg ar gyfer gwaith partner rhwng y Comisiynydd a'i bartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol, gyda'r nod o sicrhau bod  penderfyniadau pob partner ar flaenoriaethau a buddsoddiad lleol yn ystyried eu heffeithiau ehangach

Egwyddorion

Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu a phartneriaid cyfiawnder troseddol eraill yn parhau i gydweithio i geisio gwelliannau ar draws y system cyfiawnder troseddol gyfan, ac er y bydd y Comisiynydd am weithio gyda phartneriaid yn y system cyfiawnder troseddol, mae egwyddorion annibyniaeth, didueddrwydd, pennu blaenoriaethau a chyfrifoldebau cyfrifo unigol yn cael eu parchu.

Y Panel Craffu ar Warediadau y tu allan i'r Llys

Mae'r heddlu'n defnyddio gwarediad y tu allan i'r llys fel dull o ymdrin yn effeithiol ac yn effeithlon gyda throseddau llai difrifol a throseddwyr tro cyntaf y gellir ymdrin â nhw yn fwy priodol a chymesur heb fynd i'r llys. Gellir defnyddio gwarediad y tu allan i'r llys mewn amgylchiadau cyfyngedig a dim ond pan fydd yr unigolyn dan amheuaeth yn derbyn cyfrifoldeb am y drosedd. Mae'r dulliau a ddefnyddir i ymdrin ag unigolion dan amheuaeth yn y ffordd hon yn cynnwys dulliau adferol, datrysiadau cymunedol, rhybuddiadau amodol, rhybuddiadau syml, rhybuddion canabis, hysbysiadau cosb am anhrefn ac ymyraethau i bobl ifanc.

Sefydlwyd Panel Craffu ar Warediadau y tu allan i'r Llys Gwent gan Heddlu Gwent i alluogi partneriaid o amrywiaeth o asiantaethau i adolygu a chraffu'n annibynnol ar ddetholiad o achosion anhysbys y mae'r heddlu wedi defnyddio gwarediadau y tu allan i'r llys i'w datrys.

Nod y Panel yw penderfynu a oedd y dull gwaredu yn briodol, yn seiliedig ar adolygiad o'r wybodaeth neu dystiolaeth a oedd ar gael i'r sawl a oedd yn gwneud y penderfyniad ar y pryd. Ni all y Panel ail agor achos ac nid yw'n gallu atgyfeirio nac apelio achosion. Nid ail farnu'r achosion hyn yw nod y Panel ond asesu'r broses a chanfod unrhyw ffyrdd a allai gynorthwyo'r heddlu i wella’u harfer yn y dyfodol. Mae'r Panel yn cyfarfod bob tri mis ac yn penderfynu pa themâu y dylid craffu arnynt.

Bwriad y Panel yw bod yn dryloyw ac yn atebol a gwella dealltwriaeth, hyder a ffydd y cyhoedd yn y ffordd mae Heddlu Gwent yn defnyddio gwarediadau y tu allan i'r llys, gan ganolbwyntio'n benodol ar sicrhau cyfiawnder priodol a chymesur.

Panel Craffu ar Warediadau y Tu Allan i'r Llys Cylch Gwaith