Cwynion a Dderbyniwyd Gan y Panel Heddlu a Throseddu
Ar y dudalen hon byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am nifer y cwynion a/neu faterion ynghylch ymddygiad a ddaethpwyd i sylw'r Comisiynydd drwy banel yr heddlu a throseddu.
Caiff y wybodaeth ei diweddaru ar ddechrau pob blwyddyn ariannol fel safon ofynnol.
Dyddiad Derbyn |
Cwyn yn Erbyn |
Cwyn |
Camau Gweithredu |
21 Ebrill 2016 |
Y Comisiynydd |
Cwyn am beidio â datgelu gwybodaeth / tystiolaeth gyflawn mewn cwyn yn erbyn y Prif Gwnstabl |
Ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth Dim camau pellach. Argymhellwyd y dylai'r achwynydd geisio datrysiad lleol gyda Heddlu Gwent |
13 Mehefin 2016 |
Y Comisiynydd |
Cwyn yn ymwneud â gorchymyn i symud ymgyrchwyr o ganol tref |
Dim tystiolaeth. Dim camau pellach |
1 Gorffennaf 2016 |
Y Comisiynydd |
Cwyn am fethu ag ymchwilio i gŵyn mewn modd teg a thryloyw. |
Ystyriwyd bod y gŵyn wedi cael ei thrin yn gywir. Gofynwyd am ymddiheuriad mewn perthynas â chamgymeriad gweinyddol. |
2 Hydref 2016 |
Y Comisiynydd |
Methu â dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif. |
Dangosodd ymchwiliad gan lu heddlu allanol nad oedd achos i'w ateb. Gofynnwyd am ymddiheuriad i'r achwynydd am oedi wrth ddarparu gwybodaeth. |
2 Tachwedd 2016 |
Y Comisiynydd |
Cwyn mewn perthynas â methiant Heddlu Gwent i ymdrin â chyhuddiadau o ddifrod troseddol yn briodol. |
Tynnwyd y gŵyn yn ôl. |
19 Ebrill 2017 |
Y Comisiynydd |
Cwyn gyffredinol oherwydd oedi wrth ymateb i achwynydd |
Gofynnwyd i Swyddfa'r Comisiynydd ymddiheuro am oedi wrth ymateb i'r achwynydd Dim camau pellach. |
18 Gorffennaf 2017 |
Y Comisiynydd |
Methu â dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif (cysylltiedig â chwyn 20 a 21) |
Dim camau pellach - ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau. |
21 Rhagfyr 2017 |
Y Comisiynydd |
Cysylltiedig â chwynion 20-22 |
Dim camau pellach - ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau. |
13 Medi 2018 |
Y Comisiynydd |
Cwyn yn erbyn Comisiynydd blaenorol |
Dim camau pellach - ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau. |
1 Ebrill 2019 |
PCC & DPCC |
Cwyn yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (PCC) a’i Ddirprwy (DPCC) |
Dim camau pellach - ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau. |
20fed Mawrth 2020 |
PCC |
Cwyn yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (PCC) |
Derbyniwyd cwyn 20fed Mawrth 2020, cwblhawyd a gofynnwyd i’r Comisiynydd ysgrifennu at yr achwynydd i ymddiheuro am gamgymeriad gweinyddol. |
4ydd Mawrth 2020 |
PCC |
Cwyn yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (PCC) |
Derbyniwyd cwyn 4ydd Mawrth 2020, cwblhawyd a gofynnwyd i’r Comisiynydd ymddiheuro am ddiffyg ymateb a rhoi ymateb llawn o fewn pythefnos neu nodi pam na ellir darparu ymateb.
|
5 Hydref 2020 |
PCC |
Cwyn ddilynol (cysylltiedig â’r gwreiddiol dyddiedig 4ydd Mawrth 2020). |
Cwyn dyddiedig 5ed Hydref 2020 wedi cwblhau a gofynnwyd i’r Comisiynydd ymddiheuro am weinyddiaeth sâl o ran dyddiad y llythyr a anfonwyd at yr achwynydd. |