Y Dirprwy Gomisiynydd yn canmol cynhadledd VAWDASV

12fed Mawrth 2021

Mae Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Eleri Thomas, wedi canmol yr ymdrechion parhaus i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yng Ngwent.

 

Roedd yn siarad ar ôl cynhadledd ar-lein Estyn Allan tîm VAWDASV ddydd Iau, a roddodd gyfle i weithwyr proffesiynol, ymarferwyr a phartneriaid trydydd sector glywed gan ystod o sefydliadau sy'n gweithio'n ddiflino i helpu a chefnogi dioddefwyr a thramgwyddwyr VAWDASV ac eirioli ar eu rhan. 

 

Agorwyd y digwyddiad gan Jane Hutt AS, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, a dynnodd sylw at wahanol fathau o gam-drin a sut gall pobl gyfeirio dioddefwyr a thramgwyddwyr at sefydliadau priodol.

 

Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd: “Mae digwyddiadau fel y rhain yn hanfodol i ddangos yr effaith mae trais domestig a cham-drin rhywiol yn ei gael ar ddioddefwyr a'u teuluoedd. Cefais fy nghyffwrdd gan onestrwydd a dewrder yr holl siaradwyr yn y digwyddiad. Roedd gwrando ar atgofion grymus Luke Heart o CoCo Awareness, a Frank Mullane o Advocacy After Domestic Abuse yn siarad am sut gall digwyddiadau sy'n newid bywyd roi cryfder a chymorth i bobl eraill yn peri i rywun feddwl.

 

"Roedd yn ysbrydoledig clywed sut yr arweiniodd siwrnai bersonol Jasvinder Sanghera at sefydlu Karma Nirvana, elusen genedlaethol a llinell gymorth i gefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin a thrais ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod. Codwyd y pwnc yn ddiweddar yng nghyfarfod Panel yr Heddlu a Throseddu ac mae'n fater y mae angen ei drin yn sensitif gyda chymunedau yng Ngwent. Mae angen i ni barhau i weithio gydag arweinwyr cymunedol i addysgu cenedlaethau'r dyfodol a phobl hŷn er mwyn atal unrhyw fath o gam-drin ar sail anrhydedd rhag digwydd.

 

“Tynnodd y gynhadledd hon sylw at yr holl wahanol fathau o gam-drin, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, rheolaeth drwy orfodaeth a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant.  Rhoddodd gipolwg ar y gwaith mae gwasanaeth Phoenix Domestic Abuse yn ei wneud hefyd. Mae'r gwasanaeth yn gweithio nid yn unig gyda dioddefwyr ond gyda thramgwyddwyr hefyd i helpu i annog ymddygiad cadarnhaol a newid agweddau.  Mae hwn yn un o nifer o wasanaethau VAWDASV sy'n cael ei ariannu gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac rwy'n falch o hynny.

 

"Nid yw cam-drin o unrhyw fath yn dderbyniol. Rwyf yn gobeithio y bydd addysgu a chodi ymwybyddiaeth pobl o bob oedran yn helpu i rymuso dioddefwyr a phobl o'u cwmpas i chwilio am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt."

 

Mae Byw Heb Ofn yn cynnig cyngor a chymorth am ddim i bobl sydd wedi dioddef pob mathau o gamdriniaeth. Mae cymorth ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.