Y Comisiynydd yn ymuno â thrigolion i ddathlu ailagor eglwys gymunedol
Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, â thrigolion ar gyfer digwyddiad mawreddog ailagor The House – cartref Eglwys Gymunedol Bethel – yng Nghasnewydd.
Cafodd yr eglwys ei dinistrio gan dân yn 2018 ac mae gwaith adfer sylweddol wedi bod yn mynd rhagddo ers hynny.
Daeth aelodau’r gymuned ynghyd i ddathlu ailagor yr eglwys yn swyddogol mewn digwyddiad arbennig ddydd Sadwrn 28 Medi.
Dywedodd Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: “Roedd hi’n hyfryd ymuno â thrigolion ar gyfer achlysur ailagor The House. Mae’r adeilad yn dyddio’n ôl i ddiwedd y 1800au; mae’n rhan bwysig o dreftadaeth Casnewydd, ac rydym mor ffodus nad ydym wedi’i golli.
“Mae’r eglwys yn ganolbwynt i’r gymuned gyfan ac mae’n helpu i gefnogi ffoaduriaid Casnewydd ymhlith y llu o wasanaethau eraill mae’n eu darparu i drigolion ar draws y ddinas. Roedd hi’n wych gweld cynifer o aelodau o’r gymuned leol yn dod ynghyd i ddathlu ei bod wedi ailagor.”