Y Comisiynydd yn croesawu cymorth gan Lywodraeth Cymru i weithwyr siopau dros y Nadolig

29ain Tachwedd 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi croesawu datganiad Llywodraeth Cymru'n dangos cefnogaeth i weithwyr siopau dros gyfnod y Nadolig.

Meddai Comisiynydd Mudd: "Rwyf yn croesawu datganiad Llywodraeth Cymru'n cefnogi gweithwyr siopau dros gyfnod y Nadolig a'i chefnogaeth i'r ymgyrch ar y cyd rhwng Consortiwm Manwerthu Cymru a’r Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol (USDAW) i annog cwsmeriaid i fod yn garedig tuag at weithwyr siopau.

"Rwyf wedi bod allan ar grwydr yng Ngwent dros yr wythnosau diwethaf i ddangos fy nghefnogaeth i USDAW, ac rwyf wedi bod yn siarad gyda gweithwyr am y pethau maen nhw wedi'u profi.

"Does dim esgus dros drais a sarhad tuag at ein gweithwyr siopau a gofynnaf yn daer ar fanwerthwyr i riportio digwyddiadau wrth Heddlu Gwent yn syth."