Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cynnal Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2026
Ymunodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jane Mudd â chydweithwyr o Lywodraeth Cymru a Phrifysgol De Cymru i gynnal Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2026.
Mae'r digwyddiad blynyddol yn dod â phartneriaid, ymarferwyr, llunwyr polisi, academyddion a phobl â phrofiad bywyd ynghyd i rannu’r hyn a ddysgwyd a chryfhau cydweithredu yn y frwydr yn erbyn caethwasiaeth fodern.
Roedd y gynhadledd eleni yn canolbwyntio ar gam-fanteisio ar blant a phobl ifanc, yn ogystal â cham-fanteisio sy’n gysylltiedig â thai, gan gynnwys cogio a chaethwasanaeth domestig.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn wynebu rhai o'r bygythiadau mwyaf i'w diogelwch gan droseddwyr sy'n ceisio cam-fanteisio arnynt. Mae caethwasiaeth fodern yn aml yn gudd a gall ddigwydd heb i neb yn ein cymunedau sylwi, ond mae ei chysylltiadau â throseddu difrifol a chyfundrefnol yn golygu ei bod yn cyffwrdd â ni i gyd mewn rhyw ffordd.
"Gall y niwed a'r trawma hirdymor y mae caethwasiaeth fodern a chamfanteisio yn eu hachosi i ddioddefwyr adael creithiau, mewn llawer o achosion, efallai na fyddant byth yn gwella'n llawn. Fe wnaeth y gynhadledd hon ein galluogi ni i ddod â phartneriaid ynghyd o'r sector cyhoeddus, cyfiawnder troseddol, tai, y byd academaidd a'r trydydd sector, ochr yn ochr â phobl â phrofiad bywyd, i rannu ein gwybodaeth, gwella ein dealltwriaeth a chryfhau ein hymateb ar y cyd i gaethwasiaeth a chamfanteisio."