Uwch-gyngor Plant Blaenau Gwent

16eg Mehefin 2023

Roeddwn yn falch o dderbyn cwestiynau gan y plant a oedd yn bresennol yn Uwch-gyngor Plant Blaenau Gwent am faterion sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae Uwch-gyngor Plant Blaenau Gwent yn dod â phlant o ysgolion cynradd ledled Blaenau Gwent at ei gilydd at ei gilydd ac yn rhoi llwyfan iddyn nhw leisio eu barn a chael gwybodaeth am amrywiaeth o faterion pwysig. 

Yn ddiweddar, arweiniodd fy nhîm a swyddogion o Heddlu Gwent weithdy diogelwch cymunedol yn yr Uwch-gyngor, gan weithio gyda disgyblion i nodi mannau diogel yn eu cymunedau a thrafod materion sy'n bwysig iddyn nhw.

Yn dilyn y sesiwn roeddwn wrth fy modd i dderbyn tri chwestiwn ardderchog yn ymwneud ag:

  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn parciau lleol
  • Defnydd e-sigaréts ymysg pobl ifanc
  • Terfyn cyflymder 20mya

Gweithiais gydag Arolygydd Cymdogaeth Blaenau Gwent i gael atebion i'r cwestiynau ac roeddwn yn hapus iawn i recordio ffilm fer a gafodd ei rhannu gyda'r disgyblion yn eu cyfarfod ym mis Mehefin.

Rwyf yn edrych ymlaen at dderbyn rhagor o gwestiynau yn y dyfodol gan blant a phobl ifanc ledled Gwent.