Sesiwn mannau diogel yn Ysgol Gynradd St Andrews

12fed Mai 2022

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi ymweld ag Ysgol Gynradd St Andrews yng Nghasnewydd i wrando ar bryderon trigolion lleol am ddiogelwch yn y gymuned.

Siaradodd rhieni a mam-guod a thad-cuod yn agored am lefydd yn y gymuned leol lle nad ydynt yn teimlo’n ddiogel, a rhannu adborth ynghylch beth maen nhw’n credu byddai’n gwneud byw yn yr ardal yn well. 

Bydd y tîm plismona cymdogaeth lleol yn cael yr wybodaeth hon i gefnogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn y gymuned, a sefydliadau partner sy’n gweithio yn yr ardal.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae gwrando ar wybodaeth gan gymunedau a gweithredu yn sgil y wybodaeth honno’n hollbwysig i helpu i lywio gwaith fy swyddfa i a Heddlu Gwent, sy’n gweithio wrth galon ein cymunedau bob dydd i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Roeddwn yn arbennig o bryderus i glywed bod rhai aelodau o’r gymuned wedi profi trosedd casineb. Ni fydd hyn yn cael ei oddef a gofynnaf yn daer ar unrhyw un sydd wedi cael problemau i riportio’r mater wrth Heddlu Gwent.”

Rhoddodd swyddog o dîm seiberdrosedd Heddlu Gwent gyngor gwerthfawr i rieni hefyd er mwyn cadw eu plant yn ddiogel wrth ddefnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol. 

Dyma rai o’r awgrymiadau:

  • Treuliwch amser yn siarad gyda phlant a phobl ifanc am yr hyn maen nhw’n ei bostio.
  • Gwiriwch pwy mae plant a phobl ifanc yn eu dilyn.
  • Dywedwch wrth blant a phobl ifanc i beidio â rhannu gwybodaeth bersonol a’u henw cyfryngau cymdeithasol gyda phobl ddieithr.
  • Helpwch nhw i ddeall sut i riportio neu atal ymddygiad a sylwadau negyddol.

Meddai Jeff Cuthbert: “Hoffwn ddiolch i swyddogion cymdogaeth Casnewydd am ymuno yn y sesiwn i wrando ar farn trigolion, a’r swyddog seiberdrosedd am rannu gwybodaeth hollbwysig i helpu i gadw teuluoedd yn ddiogel ar-lein.”

I riportio digwyddiad, ffoniwch 101 neu cysylltwch â’r ddesg cyfryngau cymdeithasol @gwentpolice ar Facebook neu Twitter. Gellir riportio troseddau’n ddienw wrth Crimestoppers ar 0800 555 111

Ffoniwch 999 mewn argyfwng.

Ateb Tawel: Mewn argyfwng lle na allwch chi siarad, deialwch 999 a phwyso 55 pan ofynnir i chi a bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo i’r heddlu.