Seremoni gorffen hyfforddiant i 47 swyddog newydd

27ain Mehefin 2023

Roeddwn yn falch i ymuno â'r Prif Gwnstabl, Y Gweinidog Cyfiawnder Troseddol ac, wrth gwrs, teulu a ffrindiau 47 o swyddogion heddlu newydd yr wythnos yma i nodi dechrau eu gyrfa plismona yn ffurfiol.

Rwyf wedi ymroi i gael mwy o swyddogion heddlu yng Ngwent ac rwyf yn falch ein bod mewn sefyllfa llawer gwell heddiw nac yr oeddem ni pan gefais fy ethol i ddechrau yn 2016, gyda dros 350 o swyddogion heddlu ychwanegol yn gwasanaethu ein cymunedau.

Mae’r recriwtiaid newydd yma wedi gweithio’n galed ac wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad i gymunedau Gwent a rhaid eu canmol nhw. Byddant yn cael eu lleoli ledled Gwent yn awr, a dymunaf bob hwyl iddynt yn y dyfodol.