Scare on the Square

6ed Tachwedd 2024

Bu Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent yn cefnogi cyfres o ddigwyddiadau ym Mlaenau Gwent y Calan Gaeaf hwn.

Ymunodd y tîm â phartneriaid ar gyfer digwyddiadau ‘Scare on the Square’ bwganllyd ym Mrynmawr ac Abertyleri.

Cafodd y plant gyfle i fwynhau gwisgo i fyny, cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau, a gwneud tric neu drît.

Meddai’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: “Roeddem yn falch o gefnogi Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd, Cyngor Blaenau Gwent a’n partneriaid yn Nhŷ Cymunedol Brynfarm ar gyfer y digwyddiadau gwych hyn.

“Nid pawb sy’n mwynhau’r adeg hon o’r flwyddyn, a gall fod yn gyfnod pryderus iawn i’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu sy’n agored i niwed. Mae’r digwyddiadau hyn yn caniatáu i blant fwynhau gweithgareddau arswydus llawn hwyl mewn amgylchedd diogel, heb aflonyddu ar breswylwyr nad ydynt, o bosibl, eisiau cymryd rhan yn y dathliadau Calan Gaeaf.”