Pobl ifanc yn rhoi’r sbotolau ar arweinwyr Gwent
Mae plant a phobl ifanc wedi gofyn eu cwestiynau i arweinwyr sector cyhoeddus yn nigwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid Gwent blynyddol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Mae Hawl i Holi Ieuenctid Gwent yn cael ei gynnal gan aelodau Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent ac mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau'n uniongyrchol i bobl sy'n gwneud penderfyniadau.
Roedd y panel yn cynnwys fy Nirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, Eleri Thomas; Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Mark Hobrough; Johanna Robinson, Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod; a Carol Andrews, Hyrwyddwr Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Cymerodd dros 70 o bobl ifanc ran ac roedd y themâu ar gyfer y noson yn cynnwys diogelwch menywod a merched, cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, a phryderon am fepio.
Sefydlwyd Hawl i Holi Ieuenctid gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert yn 2019.
Dywedodd: “Mae comisiynwyr yr heddlu a throsedd yn cael eu hethol i siarad ar ran y bobl a dyma un o'r ffyrdd rydym yn gweithio i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed gan y bobl sy'n gwneud penderfyniadau yng Ngwent.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad penigamp arall, a rhaid i mi ddiolch i'r bobl ifanc a oedd ynghlwm ag ef am eu gwaith caled, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am gynnal y digwyddiad, a phawb a gymrodd ran ar y noson am helpu i'w wneud yn ddigwyddiad mor llwyddiannus.”