Pobl ifanc yn creu gêm fwrdd Golau Glas

21ain Gorffennaf 2022

Mae pobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Caerffili wedi creu gêm fwrdd newydd llawn hwyl o'r enw ‘Siren’, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o waith y gwasanaethau brys.

 

Crewyd Siren mewn partneriaeth gyda Heddlu Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, RNLI, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

 

Treuliodd pobl ifanc o'r fforwm ieuenctid dros ddwy flynedd yn dylunio a chreu'r gêm hwyliog a difyr hon i geisio helpu i addysgu plant a phobl ifanc.

 

Mae'r gêm wedi cael ei dosbarthu i bob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghaerffili a bydd yn cael ei rhannu gyda lleoliadau ieuenctid ledled y fwrdeistref.

 

 

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Roeddwn yn falch iawn i fod yn bresennol i lansio'r gêm. Mae'r gêm yn offeryn clyfar iawn a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddysgu plant a phobl ifanc am y gwahanol rolau mae ein gwasanaethau brys yn eu chwarae. 

 

"Roeddwn yn falch i weld y bobl ifanc yn cael eu difyrru gan y gêm, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o gwestiynau am ein gwasanaethau brys a fyddai'n gwneud i rai oedolion ystyried yn ddwys cyn ateb.

 

"Mae gwaith partner mor bwysig a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i roi bywyd i’r gêm hon."