Partneriaid yr Angel Cyllyll yn ymrwymo o'r newydd i siarter gwrth-drais
Flwyddyn ar ôl i'r Angel Cyllyll eiconig ddod i Gasnewydd, mae'r ddinas wedi ymroi o’r newydd i Siarter Gwrth-drais Genedlaethol yr Angel Cyllyll.
Comisiynwyd yr Angel Cyllyll 27 troedfedd o uchder gan y Ganolfan Gwaith Haearn Prydeinig yng Nghroesoswallt, ac mae wedi ei wneud o dros 100,000 o gyllyll o amnestau cyllyll a gynhaliwyd ledled y DU. Mae'n symbol cadarn yn erbyn troseddau cyllyll a thrais mewn cymunedau.
Cafodd y cerflun ei ddangos yng nghanolfan siopa Friars Walk yng Nghasnewydd trwy fis Tachwedd 2022 a daeth miloedd o ymwelwyr i'w weld dros gyfnod o fis. Yn ystod ymweliad yr Angel Cyllyll cynhaliwyd gweithdai gwrth-drais mewn ysgolion ledled Gwent, a chymerodd cannoedd o blant ran mewn cystadleuaeth i ddylunio sticer gwrth-drais.
Trefnwyd ymweliad yr Angel Cyllyll â Chasnewydd mewn partneriaeth rhwng Heddlu Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Friars Walk.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Roedd yn fraint cael dod â'r Angel Cyllyll i Went y llynedd ac roedd ymateb y cyhoedd yn gadarnhaol tu hwnt.
"Trwy gydol yr ymweliad cyflwynodd ein partneriaid o'r elusen Fearless weithdai gwrth-drais mewn ysgolion ar draws y rhanbarth ac mae'r gwaith yma'n parhau fel rhan o etifeddiaeth yr Angel Cyllyll. Yn rhan o'n gwaith parhaus i fynd i'r afael â throseddau cyllyll, trais a bygythiad yn ein cymunedau rwyf yn falch i ymrwymo o’r newydd i Siarter Gwrth-drais Genedlaethol yr Angel Cyllyll."
Mae perchnogion yr Angel Cyllyll, y Ganolfan Gwaith Haearn Prydeinig, wedi rhoi plac i Gyngor Dinas Casnewydd fel symbol o'i ymrwymiad i'r siarter.
Meddai Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Roedden ni'n falch i groesawu'r Angel Cyllyll i Gasnewydd. Mae'n ddarn o gelf trawiadol ac roedd yn destun llawer o drafodaeth yn ystod ei ymweliad, gan wneud i bawb ohonom oedi a meddwl am yr effaith mae troseddau cyllyll a thrais yn ei chael arnom ni fel unigolion a chymunedau.
"Flwyddyn yn ddiweddarach mae'n parhau i fod yn destun trafodaeth ymysg ein trigolion ac rydyn ni'n falch i adnewyddu ein hymrwymiad i siarter gwrth-drais yr Angel Cyllyll."
Meddai Prif Uwch-arolygydd Carl Williams: "Roedd croesawu'r Angel Cyllyll yn rhywbeth eithriadol o ystyrlon a chofiadwy i ni; mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau bod trafodaethau am yr effaith ddinistriol mae troseddau cyllyll yn gallu ei chael ar gymunedau yn parhau.
"Rydyn ni'n deall bod troseddau fel hyn yn gallu codi ofn ar bobl, ond rydyn ni eisiau tawelu meddwl y cyhoedd ein bod ni wedi ymroi i wneud popeth y gallwn ni i fynd i'r afael â thrais difrifol a sicrhau bod Gwent yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo, ac i ymweld ag ef.
"Yn rhan o'r gwaith yma, mae ein swyddogion yn ymgysylltu â thrigolion ac yn cyflwyno gwersi mewn ysgolion ac yn y gymuned i dynnu sylw at ganlyniadau cario cyllyll.
"Fel rydyn ni’n ei wneud yn rhan o’n gwaith plismona o ddydd i ddydd, ar gyfer Ymgyrch Sceptre yr wythnos yma bydd swyddogion yn cynnal nifer o batrolau yn seiliedig ar gudd-wybodaeth, i atal troseddu ac i dargedu'r rhai sy'n cyflawni troseddau treisgar."